Gwasanaethau brys yn ymateb i dân arall yn hen ysgol Llandysul
Mae’r gwasanaethau brys wedi ymateb i dân mewn hen ysgol yn Llandysul nos Iau, dros wythnos wedi i do'r adeilad chwalu mewn tân arall.
Dywedodd Gwasanaeth Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru eu bod nhw wedi cael eu galw am 20.53 nos Iau i ddigwyddiad ar Ffordd Penwalle.
Ymatebodd criwiau tân o Landysul a Chastell Newydd Emlyn i’r digwyddiad.
Cafodd y tân ei achosi gan ddarnau o bren oedd yn llosgi yno wedi tân a ddigwyddodd yn yr hen ysgol gynradd yr wythnos diwethaf, ar ddydd Mercher, 17 Gorffennaf.
Roedd y tân blaenorol wedi achosi i strwythur to'r adeilad ddymchwel yn fewnol.
“Roedd criwiau wedi ymateb i dân bach ar lawr waelod yr adeilad gwag,” medd llefarydd ar ran Gwasanaeth Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru.
Dywedodd fod y criwiau wedi defnyddio un bibell jet dŵr i ddiffodd y tân.
Gadawodd y frigâd tân y safle am 21.50 nos Iau.
Llun o dân mewn hen ysgol yn Llandysul ar 17 Gorffennaf
