Sgoriwr goliau a seren ffilm?: Paul Mullin yn chwarae rhan yn ffilm newydd Ryan Reynolds
Mae ymosodwr Wrecsam Paul Mullin wedi chwarae rhan cymeriad 'Welshpool' yn ffilm newydd Ryan Reynolds, Deadpool & Wolverine.
Mae’r ffilm yn serennu cydberchennog Wrecsam, Ryan Reynolds a’i gyfaill yn y byd go iawn, Hugh Jackman, sy’n chwarae rhan Wolverine.
Mae’r cymeriad Deadpool yn rhan o fydysawd lluosog Marvel, a gyda Ryan Reynolds yn rhan o’r tîm cynhyrchu, fe fanteisiodd ar y cyfle i gyflwyno sawl cymeriad Deadpool newydd - gan gynnwys Deadpool o Wrecsam.
Inline Tweet: https://twitter.com/NewyddionS4C/status/1817920213267976540
Nid yw ‘Welshpool’ yn dweud gair ond mae’n ymddangos am gyfnod gyda fflag Cymru ar ei frest, gydag un o sêr Wrecsam Paul Mullin yn chwarae'r rhan.
Mae'r cymeriad wedi plesio Cymry amlwg ar y cyfryngau cymdeithasol, gan gynnwys gohebydd y BBC, Peter Gillibrand a wnaeth diolch Ryan Reynolds am gynrychioli ei wlad.
Mae ymosodwr Wrecsam Ollie Palmer hefyd wedi cadarnhau ei fod yn ymddangos mewn “cameo” yn y ffilm.
Mae Ryan Reynolds wedi bod yn gydberchennog swyddogol ar y clwb pêl-droed ers Chwefror 2021, a hynny gyda’r actor Rob McElhenney.
Cafodd y ffilm Deadpool & Wolverine ei ryddhau nos Iau.
Llun: X / @VancityReynolds
