Llosgi bwriadol yn 'parlysu' reilffyrdd Ffrainc cyn y Gemau Olympaidd
Llosgi bwriadol yn 'parlysu' reilffyrdd Ffrainc cyn y Gemau Olympaidd
Mae rhwydwaith rheilffyrdd Ffrainc wedi eu "parlysu" ar ôl i isadeiledd gael ei losgi'n fwriadol cyn dechrau'r Gemau Olympaidd ym Mharis ddydd Gwener.
Dywedodd y cwmni rheilffyrdd Ffrengig SNCF bod hyd at 800,000 o deithwyr wedi eu heffeithio gan “weithredoedd maleisus” ar y system drafnidiaeth gyhoeddus.
Mae rheilffyrdd cyflym Atlantique, Nord ac Est gorllewin Paris wedi eu heffeithio, gan achosi oedi sylweddol.
“Yn dilyn yr ymosodiad enfawr hwn gyda’r nod o barlysu’r rhwydwaith rheilffyrdd cyflym, cafodd nifer fawr o drenau eu dargyfeirio neu eu canslo,” meddai SNCF ar y cyfryngau cymdeithasol.
Dywedodd Prif Weinidog Ffrainc, Gabriel Attal, bod y rheilffyrdd wedi eu difrodi mewn “modd oedd wedi ei drefnu ar y cyd o flaen llaw".
Mae'r penwythnos yn nodi dechrau y grand départ yn Ffrainc pryd mae nifer yn gadael y dinasoedd a'r trefi ar gyfer mis o wyliau yng nghefn gwlad neu ar yr arfordir.
'Osgoi teithio'
Dywedodd cwmni Eurostar bod y rheilffordd o Lundain i Baris wedi dioddef “ymosodiad” a bod gwasanaethau wedi eu canslo ac eraill yn cymryd awr yn hirach i gwblhau eu taith.
Mae’r cwmni wedi rhybuddio y gallai gymryd “drwy’r penwythnos” i drwsio’r problemau, a maen nhw bellach yn annog teithwyr i osgoi teithio am y tro os yn bosib.
Bydd un ym mhob pedwar o'u trenau wedi eu canslo ddydd Gwener a dros y penwythnos, medden nhw.
Bydd y Gemau Olympaidd yn dechrau ddydd Gwener gyda seremoni ar lannau’r Seine, y tro cyntaf iddo gael ei gynnal y tu allan i stadiwm.
Dywedodd trefnwyr y gemau: "Mae Paris 2024 wedi nodi'r digwyddiadau sy’n effeithio ar rwydwaith rheilffyrdd yr SNCF.
"Rydyn ni'n gweithio'n agos gyda'n partner, y gweithredwr rheilffyrdd SNCF, i asesu'r sefyllfa."