Newyddion S4C

Kamala Harris ‘ddim am gadw’n dawel' am ddioddefaint Palestiniaid

26/07/2024
Kamala Harris a Benjamin Netanyahu

Mae Kamala Harris wedi dweud wrth Brif Weinidog Israel na fydd yn cadw’n dawel am ddioddefaint Palestiniaid.

Wrth gyfarfod â Benjamin Netanyahu yn Washington D.C. dywedodd Dirprwy Arlywydd yr Unol Daleithiau bod “llawer gormod” o ddinasyddion wedi eu lladd yn y rhyfel yn Gaza.

Dywedodd Kamala Harris serch hynny ei bod wedi ei hymrwymo yn “llwyr” i fodolaeth a diogelwch Israel.

Mae disgwyl mai Kamala Harris fydd ymgeisydd y Blaid Ddemocrataidd yn etholiad arlywyddol yr Unol Daleithiau ym mis Tachwedd ar ôl i Joe Biden ddweud na fydd yn sefyll eto.

Mae’r rhyfel yn Gaza wedi bod yn bwnc llosg ymysg cefnogwyr y blaid, gyda miloedd yn protestio ymweliad Benjamin Netanyahu â Washington.

“Mae’r hyn sydd wedi digwydd yn Gaza dros y naw mis diwethaf yn ddinistriol,” meddai Kamala Harris.

“Mae delweddau o blant marw a phobl anobeithiol, newynog yn ffoi am ddiogelwch, weithiau’n cael eu dadleoli am yr ail, y trydydd neu’r pedwerydd tro.

“Ni allwn droi i edrych y ffordd arall yn wyneb y trasiedïau hyn. Ni allwn ganiatáu i ni ein hunain fynd yn ddideimlad i'r dioddefaint. Ac ni fyddaf yn cadw’n dawel."

'Gofid'

Fe wnaeth Benjamin Netanyahu addo “buddugoliaeth lwyr” yn rhyfel Gaza mewn araith i Gyngres yr Unol Daleithiau ddydd Mercher.

Nid yw wedi ymateb yn gyhoeddus i sylwadau Kamala Harris.

Mewn cyfweliad â safle newyddion Israel Ynet a gyhoeddwyd ddydd Mawrth, dywedodd llysgennad Israel i’r Unol Daleithiau, Michael Herzog, fod record Kamala Harris ar Israel yn un “positif”.

Ond fe ychwanegodd ei bod wedi gwneud “datganiadau sy’n peri gofid” am y rhyfel yn Gaza.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.