Charlotte Church: 'Fy ieuenctid wedi'i wenwyno gan y wasg'
Mae’r gantores o Gaerdydd Charlotte Church wedi dweud fod ei blynyddoedd yn fenyw ifanc wedi’u “gwenwyno” gan y wasg dabloidaidd, gan ddweud eu bod nhw wedi ei "cham-drin".
Daw ei sylwadau fel rhan o gyfres dogfen newydd gan ITV, Tabloids on Trial.
Mae'n un o sawl ffigwr cyhoeddus sydd wedi rhannu eu profiadau – gan gynnwys Y Tywysog Harry, yr actor Hugh Grant, y cyn bêl-droediwr Paul Gascoigne a chyn Brif Weinidog y DU, Gordon Brown.
Dywedodd Church ei bod yn teimlo'n "anesmwyth" o hyd gan deimlo fod rhywun yn gwrando ar ei galwadau ffôn.
“Cafodd y cyfnod hwnnw o fy mywyd ei liwio gan yr hyn y wasg tabloid, ac fe wnaethon nhw wenwyno hynny mewn ffordd," meddai.
“O 15 oed i 21, roedd gen i gamdriniwr nad oedd modd dianc rhagddo – y wasg.”
'Ymddiheuro'
Roedd yr actor Hugh Grant yn un o brif dystion Ymchwiliad Leveson a gafodd ei gynnal rhwng 2011 a 2012 yn sgil y sgandal hacio ffonau symudol.
Nod yr ymchwiliad barnwrol cyhoeddus oedd craffu ar ddiwylliant ac ymarferion y wasg ym Mhrydain yn dilyn sgandal News International wedi iddi ddod i’r amlwg eu bod wedi bod yn gwrando ar negeseuon preifat.
Yn ystod y misoedd diwethaf, mae Hugh Grant wedi derbyn setliad y tu allan o’r llys, gan ddweud y byddai’n costio gormod iddo fynd i’r llys. Dywedodd y byddai yn rhaid iddo dalu costau cyfreithiol o hyd at £10 miliwn.
Dywedodd News Group Newspapers, oedd biau News of the World, eu bod eisoes wedi ymddiheuro yn gyhoeddus yn 2011 wedi i rai o newyddiadurwyr y News of the World hacio ffonau.
Dywedodd y cwmni hefyd eu bod wedi ymrwymo i dalu iawndal i’r rheiny a gafodd eu heffeithio a bod hynny bellach wedi digwydd.
“Mewn rhai achosion, mae wedi gwneud synnwyr masnachol i ddod i gytundeb gan setlo cyn achos llys,” meddai.
Dywedodd Mirror Group Newspapers eu bod yn “ymddiheuro’n ddiamod” am unrhyw gamweddau hanesyddol a’u bod yn cymryd “cyfrifoldeb llawn ac wedi talu iawndal."