
Cymorth i farw: Seren deledu yn croesawu ymgais i’w wneud yn gyfreithlon
Mae’r seren deledu, y Fonesig Esther Rantzen, wedi croesawu ymgais newydd i roi’r hawl i bobl sydd â salwch terfynol i ddod a’u bywydau i ben yng Nghymru a Lloegr.
Bydd bil yn cael ei gyflwyno yn Nhŷ’r Arglwyddi dydd Gwener bron ddegawd ers i fwyafrif aelodau seneddol wrthod ymgais i wneud cynorthwyo i farw yn gyfreithlon.
Dywedodd Esther Rantzen ei fod yn cynnig “llygedyn o obaith”. Mae wedi bod yn ymgyrchu dros gyfreithloni cymorth i farw ers iddi gael diagnosis o ganser yr ysgyfaint ym mis Ionawr 2023.
Wrth ysgrifennu yn y Daily Express, dywedodd: “Yr wythnos hon, am y tro cyntaf ers dros flwyddyn, cefais lygedyn o obaith… rydw i wedi meiddio edrych ymlaen.”
Bydd cyn-ysgrifennydd cyfiawnder Llafur, yr Arglwydd Falconer, yn cyflwyno’r Bil aelod preifat yn Nhŷ’r Arglwyddi.
Fe fyddai’n caniatáu i oedolion â salwch angheuol sydd â chwe mis neu lai ar ôl i fyw i ddod â’u bywydau i ben.
Dywedodd y Prif Weinidog Syr Keir Starmer cyn yr Etholiad Cyffredinol y byddai yn caniatáu pleidlais rydd ar y pwnc.

Mae cynorthwyo rhywun i ddod â'u bywyd i ben yn drosedd yng Nghymru a Lloegr ar hyn o bryd.
Dywed ymgyrchwyr yn erbyn y ddeddf y gallai cyfreithloni roi pwysau ar bobl fregus i ddod â’u bywydau i ben rhag ofn eu bod yn faich ar eraill.
Mae yna hefyd bryderon y gallai beryglu bywydau pobl anabl, yr henoed, pobl sy’n sâl a’r rheini sy’n dioddef o iselder.
Ond mae ymgyrchwyr o blaid wedi dweud y byddai'n caniatáu i bobl farw gydag urddas ac mae rhai yn dadlau bod marwolaeth yn fater preifat ac na ddylai'r wladwriaeth ymyrryd.