Pum aelod o gang yn euog o gynllwyn i ddosbarthu cocên a chanabis yn Aberystwyth
Mae pum aelod o gang “soffistigedig” wedi eu cael yn euog o drefnu i gynllwynio cocên a chanabis yn nhref Aberystwyth.
Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys eu bod nhw wedi cipio gwerth £400,000 o gocen gan aelodau’r gang a oedd yn newid tactegau yn gyson er mwyn osgoi cael eu dal.
Mae chwech o ddiffynion wedi ymddangos o flaen llys gyda phump phonynt yn pledio’n euog neu’n cael eu canfod yn euog gan reithgor.
Mae cyfanswm o 15 o bobl bellach yn disgwyl cael eu dedfrydu fel rhan o’r ymgyrch.
Dywedodd Ditectif Ringyll Steven Jones: “Roedd y cynllwyn hwn yn gweithredu ar fodel Llinellau Sirol, lle mae cyffuriau rheoledig yn cael eu masnachu i dref wledig lai o ddinas fwy.
“Yn yr achos hwn roedd cyfanswm o bedair llinell yn rheoli’r cyflenwad o gocên a chanabis yn Aberystwyth.
“Roedd y cynllwynwyr yn aml yn esblygu eu gweithredoedd i rwystro’r awdurdodau ac osgoi cael eu dal.”
Roedd y cyffuriau yn dod o Abertawe a Birmingham, meddai.
“Roedd negeswyr dibynadwy yn cael eu defnyddio i gludo cyffuriau i Aberystwyth ac arian yn ôl i Birmingham neu Abertawe,” meddai Steven Jone.
“Defnyddiwyd nifer o gerbydau, gan gynnwys tacsis, wrth i’r criw geisio osgoi cael eu dal ar hyd y llwybr, tra bod trenau hefyd yn cael eu defnyddio pan gafodd ceir eu stopio gan swyddogion.”
Achosion llys
Ar ôl achos llys saith wythnos o hyd yn Llys y Goron Abertawe yn gynharach eleni, cafwyd y tri diffynnydd canlynol yn euog am eu rhan yn y cynllwyn:
• Toana Ahmad, 33 oed, o Lee Gardens yn Smethwich, Gorllewin Canolbarth Lloegr
• Barzan Sarhan, 31 oed, heb gyfeiriad sefydlog
• Ahmed Piro, 26 oed, heb gyfeiriad sefydlog
Methodd y rheithgor â dod i benderfyniad yn achos dau ddiffynnydd yn ystod yr achos llys cynharach. Roedd ail achos llys gan ddechrau ar 1 Gorffennaf, gyda’r canlyniadau canlynol:
• Cafwyd Hawre Ahmed, 35 oed, o Pinderfields Road, Wakefield, Gorllewin Swydd Efrog, yn euog gan y rheithgor o gynllwynio i gyflenwi cyffuriau rheoledig Dosbarth A a B.
• Cafwyd Diar Yousef Zeabari, 35 oed, o Fflat 5, 41 Heol y Bryn, Abertawe, yn ddieuog o gynllwynio i gyflenwi cyffuriau rheoledig Dosbarth A a B.
Plediodd Karwan Karim, 39 oed o 125 Stryd Griffith John Street, Abertawe, yn euog i gynllwynio i gyflenwi cyffuriau rheoledig Dosbarth A a B.