Newyddion S4C

Meinir Howells yw enillydd Gwobr Ffermwraig y Flwyddyn

Meinir Howells

Y gyflwynwraig a’r ffermwr Meinir Howells yw enillydd Gwobr Ffermwraig y Flwyddyn NFU Cymru.

Fe enillodd y ffermwr bîff a defaid o Bentrecwrt ger Llandysul y wobr ddydd Iau, 12 mlynedd ar ôl i’w mam, Doris Jones, ennill yr un wobr. 

A hithau’n wyneb cyfarwydd i wylwyr S4C, mae’n ymddangos yn rheolaidd ar raglen Ffermio, yn cyflwyno’n fyw o’r Sioe Frenhinol, ac yn rhan o’r gyfres Teulu Shadog: Blwyddyn ar y Fferm sydd newydd gael ei hadnewyddu am bedwaredd gyfres. 

Cafodd ei chyflwyno gyda dysgl grisial Gymreig a gwobr ariannol gwerth £500 wrth nodi ei llwyddiant.

Mae'r wobr, sydd eleni yn dathlu 26 blynedd, yn ceisio hyrwyddo'r cyfraniad y mae merched yn ei wneud i'r diwydiant amaethyddol ac i godi proffil merched ym myd amaeth.

Dywedodd Abi Reader, Dirprwy Lywydd a beirniad y wobr NFU Cymru: “Mae Meinir yn eiriolwr cryf dros ddiogelu dyfodol amaethyddiaeth Cymru, boed hynny trwy gynhyrchu da byw o’r safon uchaf ar y fferm, ei gwaith oddi ar y fferm fel cyflwynydd teledu amaethyddol, neu ei gwaith gydag ysgolion lleol a’r CFfI. 

“Roedd ei hangerdd dros y diwydiant yn amlwg i’w weld ac mae hi’n credu bod amaethyddiaeth yn chwarae rhan ganolog wrth gadw a gwella bioamrywiaeth a’r ecosystemau, yn ogystal â chynhyrchu bwyd o safon uchel.”

'Eiriolwr gwych'

Gyda chymorth ei gwr, Gary, mae Meinir yn cynnal diadell bur yn bennaf ar eu fferm yn Sir Gaerfyrddin, yn ogystal ag ychydig o ddefaid masnachol, gan gynhyrchu tua 130 o hyrddod bridio blwydd y flwyddyn.

Mae ganddynt hefyd fuches o heffrod bîff, y maent yn eu magu, eu lloia ac yna eu gwerthu, yn ogystal â buches sugno fasnachol a buches o wartheg Aberdeen Angus pur, ac 12 o ferlod Shetland a mochyn hefyd.

Mae'r gŵr a gwraig, sydd â dau o blant ifanc, Sioned , 8 oed a Dafydd, 6 oed, hefyd yn cadw mamogiaid Texel, Suffolk, Charolais, Beltex, Wyneblas Caerlŷr a Balwen pur.

Drwy hyrwyddo eu cynnyrch ar y cyfryngau cymdeithasol, maen nhw hefyd wedi gwerthu hyrddod ar lefel rhyngwladol, gan gynnwys i’r Alban, Argyle, Dyfnaint ac Estonia.

Mae ganddi hanes hir yn y diwydiant wedi iddi ddechrau ei diadell yn blentyn, ac mae wedi ennill Pencampwriaeth Sioe Frenhinol Cymru yn ogystal â bod yn Bencampwr Gŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad nifer o weithiau. 

Mae Meinir hefyd newydd gyflawni ail dymor fel Cadeirydd Cymdeithas y Balwen.  

Dywedodd y beirniad Heather Holgate, sy’n cynrychioli noddwyr gwobrau NFU Mutual yn ei rôl fel Ysgrifennydd Grŵp NFU Cymru yn Nhregaron fod Meinir yn “eiriolwr gwirioneddol wych i’n diwydiant.”

“Roedd ei hangerdd a’i hymroddiad i’r diwydiant, nid yn unig wrth ofalu am ei stoc a’r amgylchedd, ond hefyd ei hagwedd tuag at addysgu eraill ynglŷn ag o ble y daw eu bwyd a sut mae’n cael ei gynhyrchu yn amlwg yn ystod ein hymweliad â’i fferm,” meddai. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.