Neuadd fwyd Y Sioe yn 'ffenest siop' i fusnesau ddenu prynwyr masnachol
Neuadd fwyd Y Sioe yn 'ffenest siop' i fusnesau ddenu prynwyr masnachol
Y Neuadd Fwyd yn orlawn o hufen iâ a chig i rywbeth cryfach.
Mae 'na gynnyrch at ddant pawb.
I'r busnesau, cyfle i ddal sylw ymwelwyr a phrynwyr masnachol.
"Yn y ddwy flynedd ddiwethaf, ni'n allforio mas i America.
"Ni 'di wneud cysylltiadau da yn y Sioe ac mae Llywodraeth Cymru efo cysylltiadau hefyd.
"Mae pobl tramor yn dod 'ma sy'n prynwyr i countries eraill hefyd."
Yng nghegin y cartref wnaeth y cwmni yma ddechrau yn 2016.
Bellach, wedi sefydlu dau gaffi a nifer o wobrau i'w henw.
Mae eu cynnyrch nawr ar gael mewn siopau byd-enwog.
"Ar y funud, mae'n caramel range ni i gyd yn cael ei gwerthu yn Harrods.
"Mae'n big name drop i ni a ni'n browd o hwnna.
"Mae granola ni'n cael ei gwerthu yn Selfridges hefyd.
"Two big names!"
A hynny oherwydd dod i sioeau fel hyn a gwneud y berthynas 'na.
"Ni'n cwrdd â phobl sy'n prynu stwff ni.
"Mae'n helpu bridgo'r gap.
"Bydden ni ddim yn cwrdd â nhw os nad ydynt yn dod i'r Sioe.
"Mae'n helpu lot."
Yma yn y Lolfa Fusnes, mae 'na 300 o gynhyrchwyr yn arddangos a 360 o brynwyr yn ymweld â'r ystafell yma yn ystod y Sioe.
Gobaith Llywodraeth Cymru oedd cynyddu gwerth y sector sylfaen bwyd i £8.5 biliwn erbyn 2025.
Y llynedd, roedd gan y sector y busnesau sy'n cynhyrchu, prosesu a chyfanwerthu bwyd a diod drosiant o £9.3 biliwn felly'r targed wedi'i gyrraedd dwy flynedd yn gynnar.
"Mae hwn yn ffenestr siop i Gymru, Prydain ac i Ewrop hefyd.
"'Dan ni 'di dechrau gwerthu yn y Middle East ac yn y blaen.
"Yn aml, welwch chi brynwr yn dod i'r Sioe achos mae'n un o'r sioeau blaenllaw yn Ewrop a mae hyn yn rhywbeth fedrwn ni fod a hyder a balchder ynddo fo."
Mae'r diwydiant bwyd a diod ar 'i fyny yng Nghymru yn ôl y ffigyrau.
A'r cwsmeriaid, fel y cynhyrchwyr, wedi cael gwir flas ar y Sioe.
