Newyddion S4C

Pwy yw Eluned Morgan, Prif Weinidog tebygol nesaf Cymru?

25/07/2024

Pwy yw Eluned Morgan, Prif Weinidog tebygol nesaf Cymru?

Cafodd Eluned Morgan ei magu ar aelwyd wleidyddol ar stad gyngor Trelai yng Nghaerdydd.

Ficer o'dd ei thad, Bob, o'dd hefyd yn arweinydd ar Gyngor De Morgannwg.

O'dd ei mam, Elaine, hefyd yn gynghorydd.

Roedd cartre'r teulu, y Ficerdy, yn ganolbwynt i'r gymuned ac yn bencadlys answyddogol i'r Blaid Lafur yn lleol gyda phrif weinidogion y dyfodol, Rhodri Morgan a Mark Drakeford yn ymwelwyr cyson.

Roedd Eluned Morgan yn rhan o'r genhedlaeth gyntaf o ddisgyblion yn Ysgol Gyfun Gymraeg gynta'r brifddinas, Ysgol Glantaf cyn symud i Goleg yr Iwerydd ym Mro Morgannwg.

Yn ôl un o'i ffrindiau yno, roedd gwleidyddiaeth yng ngwaed Eluned.

"Roedden nhw'n deulu o'dd yn ymroddi lot i'r gymuned lleol.

"Oedd hwnna yn ei gwaed hi.

"Yn amlwg yn Coleg yr Iwerydd oedden ni gyd yn dechrau ymdopi gyda phethau mwy rhyngwladol.

"Dyna o'dd ethos y coleg."

Arweiniodd chwilfrydedd Eluned Morgan mewn gwleidyddiaeth rhyngwladol â hi i Frwsel ac i Senedd Ewrop.

"Yng Nghymru, mae'r map gwleidyddol yn goch o Wynedd i Went.

"Llafur yn ennill y pum sedd."

Cafodd ei hethol am y tro cyntaf yn 1994.

"Mae pobl wedi penderfynu mae'r Blaid Lafur yw gwir blaid Cymru."

Ac yn 27 oed, hi o'dd aelod ieuengaf Senedd Ewrop.

Roedd blynyddoedd o deithio nôl ac ymlaen i ddod.

Ar ganol hynny, rôl blaenllaw yn yr ymgyrch dros ddatganoli i Gymru.

"There is a saying in Welsh.

"Tri chynnig i Gymro or three tries for a Welshman.

"It's important to understand that there won't be three goes at this."

"The Baroness Morgan of Ely."

Wedi ildio ei sedd yn Senedd Ewrop yn 2009 ymunodd y Farwnes Morgan o Drelai a Thŷ'r Arglwyddi yn 2011 ble bu'n lefarydd i Lafur ar Gymru.

Yna, yn 2016, i Fae Caerdydd i gynrychioli Canolbarth a Gorllewin Cymru.

Ychydig dros flwyddyn yn ddiweddarach cafodd ei phenodi i Lywodraeth Carwyn Jones.

"Mae'n rhywun sy'n dod ymlaen yn dda 'da pobl.

"Mae profiad ganddi o gymuned Drelai yng Nghaerdydd.

"Roedd ei thad yn offeiriad yn y gymuned hynny.

"Mae 'di gweld problemau pobl a beth maen nhw wedi gwynebu yn y gymuned.

"Mae'n rhywun â phrofiad rhyngwladol ym Mrwsel ac mae ganddi broffeil, mae pobl yn gwybod pwy yw Eluned Morgan."

Daeth Eluned Morgan yn drydedd yn y ras i olynu Carwyn Jones yn 2018.

Mark Drakeford aeth â hi bryd hynny.

Fe benododd hi i swydd sydd gyda'r caletaf yn y Cabinet swydd y Gweinidog Iechyd a hynny ynghanol pandemig Covid-19.

"Maen nhw'n poeni bydd hwn yn chwythu lan."

Daeth hynny a'i heriau ond roedd trafferthion eraill i'w hwynebu gan gynnwys gwaharddiad rhag gyrru am dorri'r terfyn cyflymder.

"Dw i'n ymddiheuro i fy nghyd-aelodau a phobl Cymru am y sefyllfa anffodus dw i 'di gosod fy hunan ynddi."

Bu'n rhaid ymddiheuro hefyd am wneud jôc am Margaret Thatcher ac roedd ymddiheuriad i'r Ymchwiliad Covid am negeseuon anfonodd hi at gydweithwyr yn ystod y pandemig.

"Can I first apologise for my fruity language?

"That's not going to go down well with my husband who is a priest."

Ddeuddydd ers cyhoeddi y byddai'n ceisio am y swydd mae Eluned Morgan bellach wedi'i phenodi'n arweinydd ar Lafur Cymru.

Penllanw perthynas a'r blaid sy'n dyddio nôl i'w phlentyndod.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.