Dwy o Gymru ar restr y 30 hanesydd mwyaf dylanwadol o dan 30 oed
Mae dwy o Gymru ar restr y 30 hanesydd mwyaf dylanwadol o dan 30 oed cylchgrawn hanes y BBC.
Mae Elin Tomos o Eryri a Louvain Rees o Ben-y-bont ar Ogwr wedi cael eu henwi ar restr 30 o dan 30 History Extra.
Bwriad y rhestr yw rhoi sylw i bobl ifanc rhwng 18 a 30 oed sydd yn "gwneud cyfraniadau gwych i hanes".
Mae Elin yn awdur, hanesydd, a chynhyrchydd sy'n gweithio i gwmni cynhyrchu Cwmni Da, lle mae hi'n anelu at archwilio hanes ar lefel bersonol trwy arbrofi gyda gwahanol gyfryngau.
Mae hi wedi cynhyrchu a chyflwyno tair cyfres hanesyddol i BBC Radio Cymru ac wedi cyhoeddi bron i 30 o erthyglau i BBC Cymru Fyw.
Mae Louvain Rees yn hanesydd cymdeithasol, yn arbenigo yn hanes marwolaeth a Chymru. Mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar hanesion dosbarth gweithiol, gan archwilio bywydau’r bobl bob dydd sy’n aml yn cael eu hanwybyddu gan hanes prif ffrwd.
Ar hyn o bryd, mae hi'n archwilio hanes personol cleifion yn Lloches Sir Forgannwg.
Cafodd y gystadleuaeth ei lansio eleni mewn partneriaeth â'r hanesydd a'r gyflwynwraig Alice Loxton.
Mewn datganiad, dywedodd History Extra: "Roedd safon y ceisiadau yn eithriadol o uchel ac yn dangos y ffyrdd di-ben-draw y gallwn ymgysylltu â hanes heddiw.
"Roedd hi mor gyffrous darllen am yr hyn y mae’r genhedlaeth nesaf o wneuthurwyr hanes yn ei wneud ledled y wlad."