Mabli Cariad Hall: Cyhuddo menyw ar ôl marwolaeth babi wedi gwrthdrawiad y tu allan i ysbyty
Mabli Cariad Hall: Cyhuddo menyw ar ôl marwolaeth babi wedi gwrthdrawiad y tu allan i ysbyty
Mae menyw wedi’i chyhuddo ar ôl marwolaeth babi wedi gwrthdrawiad y tu allan i Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Sir Benfro y llynedd.
Mae Bridget Carole Curtis, 70 oed o Fegeli, wedi’i chyhuddo o achosi marwolaeth Mabli Cariad Hall, a oedd yn wyth mis oed, drwy yrru’n beryglus ar Fehefin 21, 2023.
Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys y bydd hi'n ymddangos yn Llys Ynadon Llanelli ddydd Iau, 22 Awst.
Yn dilyn ei marwolaeth y llynedd, cyhoeddodd teulu Mabli ddatganiad: “Fel teulu hoffen ni ddiolch i Heddlu Dyfed-Powys am eu proffesiynoldeb dros y flwyddyn ddiwethaf ac am y modd y maent wedi egluro pob cam i ni ar ein taith hynod anodd.
“Mae eu hamynedd a'u cefnogaeth wedi bod yn amhrisiadwy.
“Y flwyddyn ddiwethaf fu’r cyfnod mwyaf erchyll yn ein bywydau. Mae ein bywyd teuluol wedi newid am byth a hyd heddiw rydym yn dal i geisio dod i delerau â’r hyn sydd wedi digwydd.
“Mae pob dydd yn boenus i ni ond fel rhieni mae dal yn rhaid i ni roi’r cariad a’r gefnogaeth sydd ei angen i'n plant eraill gan eu bod nhw’n dal i geisio dod i delerau â cholli eu chwaer fach.
“Mae’r gefnogaeth a gynigir gan elusen 2Wish wedi bod yn amhrisiadwy wrth ein cynorthwyo fel teulu.
“Rydym yn ddiolchgar ein bod ni nawr wedi cyrraedd y cam hwn o’r broses. Ry'n ni'n deall fod gennym ni fwy i ddod ond dyma'r cam mwyaf ymlaen rydyn ni wedi'i gael ers mis Mehefin y llynedd.
“Rydyn ni eisiau diolch i’n ffrindiau, ein teulu a’n cefnogwyr sydd wedi ein cefnogi drwy gydol y cyfnod heriol hwn a byddwn yn parhau i’n cefnogi wrth i bethau symud ymlaen.
“Ni fyddwn byth yn anghofio’r cariad a’r gefnogaeth a ddangoswyd i ni ac er cof am ein hangel gwerthfawr, Mabli Cariad.”