Wrecsam: James McClean a seren Chelsea yn ymladd mewn gêm gyfeillgar
Roedd rhaid i ddyfarnwyr a rheolwr Wrecsam Phil Parkinson ymyrryd ar ôl i James McClean ac amddiffynnwr Chelsea Levi Colwill ddechrau ymladd mewn gêm gyfeillgar.
Roedd Wrecsam yn chwarae yn erbyn Chelsea ar ei taith yn yr UDA nos Fercher aeth y ddau chwaraewr i ymrafael â'i gilydd ar ôl dau funud yn unig o'r gêm.
Fe wnaeth Colwill ymateb i dacl hwyr gan James McClean cyn i'r ddau ddechrau gafael yng nghrysau a gwthio wynebau ei gilydd.
Inline Tweet: https://twitter.com/FBAwayDays/status/1816356849970454568
Rhedodd chwaraewyr y ddau dîm atynt i geisio tawelu'r sefyllfa, ynghyd â'r dyfarnwyr a rheolwr Wrecsam, Phil Parkinson.
2-2 oedd y sgôr terfynol yn Stadiwm Levi's yng Nghaliffornia.
Ar ôl y gêm dywedodd Phil Parkinson y dylai bod Wrecsam wedi ennill.
"Mae rhaid i chi roi'r gêm yn ei chyd-destun. Maen nhw'n dîm gwerth biliynau o bunnoedd, maen nhw wedi gwario gymaint, a dwy flynedd yn ôl roeddem yn chwarae yn y gynghrair genedlaethol.
"I gystadlu gyda Chelsea heno, fe allwch chi ddeall mor fawr oedd yr ymdrech gan y chwaraewyr ac fe ddylwn ni ac fe allwn ni fod wedi mynd ymlaen i ennill y gêm."
Fe fydd Wrecsam yn teithio i Ganada nesaf i herio'r Vancouver Whitecaps ddydd Sul.