Newyddion S4C

Rhybudd am drafferthion traffig ar benwythnos cyntaf gwyliau'r haf

26/07/2024
Traffig ar y ffyrdd

Mae gyrwyr wedi cael eu rhybuddio i ddisgwyl llawer o draffig ar y prif ffyrdd yn ystod penwythnos cyntaf gwyliau'r haf.

Dywedodd yr RAC bod disgwyl i 13.8 miliwn o yrwyr deithio ar ffyrdd y Deyrnas Unedig rhwng dydd Gwener a dydd Sul.

Daw'r rhybudd wrth i nifer o ysgolion yng Nghymru a Lloegr gau am yr haf yr wythnos hon, gyda nifer o deuluoedd yn mynd ar eu gwyliau.

Mae tagfeydd yn debygol o fod ar eu hanterth ddydd Gwener wrth i 3.2 miliwn o yrwyr sy'n mynd i ffwrdd ymuno â'r rhai sy'n gyrru i'r gwaith.

Bydd y traffig yn parhau'n drwm dros y penwythnos, gyda 3.6 miliwn a 2.9 miliwn o deithiau pellach wedi'u hamserlennu ar gyfer dydd Sadwrn a dydd Sul.

Yn ogystal bydd tua phedair miliwn o deithiau ychwanegol rhyw ben rhwng dydd Gwener a dydd Sul.

Er mwyn osgoi'r gwaethaf o'r traffig, dylai gyrwyr osgoi teithio rhwng 12.00 a 17.00 dydd Gwener a dydd Sadwrn, a rhwng 11.00 ac 13.00 ddydd Sul, yn ôl y cwmni dadansoddi trafnidiaeth Inrix.

Dywedodd llefarydd ar ran y RAC, Alice Simpson: “Er mwyn osgoi penwythnos sobor o wael ar y ffyrdd yn ystod un o benwythnosau prysuraf y flwyddyn, rydym yn cynghori cynifer o bobl ag sy’n bosibl i adael cyn gynted ag y gallant, i geisio gwasgaru teithiau dros gyfnod hirach.

“Dylai'r rhai sy'n mynd ar eu gwyliau – p’un a ydyn nhw’n gyrru i leoliad yn y DU, neu’n mynd dramor – gynllunio eu teithiau’n ofalus a gadael digon o amser cyn cychwyn.”

 

 

 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.