Newyddion S4C

Rhybudd wedi achosion o ddwyn offer morwrol ym Mhwllheli

25/07/2024
Marina Pwllheli
Mae Heddlu'r Gogledd yn rhybuddio perchnogion cychod i fod yn wyliadwrus yn dilyn adroddiadau o achosion o ddwyn offer morwrol drud ym Mhwllheli. 
 
Mae peiriannau cychod ac offer wedi cael eu dwyn mewn pedwar digwyddiad gwahanol yn y dref yn ystod yr wythnosau diwethaf – hefo dau ddigwyddiad dros y deuddydd diwethaf.
 
Dywedodd y Ditectif Ringyll Arron Hughes: "Dylai unrhyw un sy'n berchen ar gwch neu jetski yn lleol ystyried diogelwch eu heiddo yn dilyn y digwyddiadau diweddar hyn drwy sicrhau bod popeth yn saff. 
 
"Buaswn i'n argymell gosod camera cylch cyfyng a defnyddio cloeon gwrth-ladrad lle bo hynny'n bosibl, marcio eitemau gwerthfawr a chael gwared ar eiddo drud pan dydyn nhw ddim yn cael eu defnyddio. 
 
"Dylai unrhyw weithgarwch amheus o amgylch iardiau cychod, ardaloedd gwasanaethau morol neu stadau diwydiannol hefyd gael eu riportio i ni cyn gynted â phosibl.
 
"Gofynnir i unrhyw un sydd hefo gwybodaeth a allai helpu hefo'n hymchwiliadau ni gysylltu hefo ni drwy ein gwefan ni, neu drwy ffonio 101, gan ddyfynnu'r cyfeirnod 24000645691."
 
Llun: Google

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.