‘Artaith’: Rhybudd mam wedi i’w mab foddi mewn cronfa ddŵr
Mae mam wedi rhybuddio rhieni eraill i gymryd gofal wedi i’w mab 15 oed foddi mewn cronfa ddŵr ger Merthyr Tydfil.
Fe wnaeth Reuben Morgan foddi yng Nghronfa Ddŵr Pontsticill ger Merthyr Tudful yn 2006 ar ôl treulio’r noson yn gwersylla yno gyda ffrindiau.
A hithau’n Ddiwrnod Atal Boddi y Byd mae ei fam Maxine Johnson wedi dweud wrth rieni eraill i gymryd gofal nad ydi eu plant nhw yn mynd i berygl yn yr un modd.
“Fe gymerodd dri diwrnod i ddod o hyd iddo,” meddai.
“Felly roedd hynny'n artaith lwyr, oherwydd roeddwn i'n dal i feddwl amdano o dan y dŵr.”
Dywedodd nad oedd hi’n deall hyd heddiw pam oedden nhw wedi penderfynu nofio ar draws y gronfa.
“Roedd yn bell iawn,” meddai.
“Ac wrth edrych arno rwyt ti'n meddwl, sut, sut ar y ddaear fydden nhw wedi gwneud hynny?
“Fe aeth Ruben i drafferth, yn anffodus, dri chwarter y ffordd ar draws.
“Fe wnaeth un ffrind geisio ei roi ar ei gefn. Roedd yn cael trafferth ac yn cicio, a dywedodd, yn y pen draw, 'na, allai i ddim'. A fo ddywedodd, 'dos'.
“Felly pan edrychon nhw yn ôl, roedd Reuben yn diflannu.
“Mae'n anodd iawn disgrifio effaith colli plentyn, ond mae’n rhwygo eich teulu yn ddarnau.”
‘Cnoc ar eich drws’
Mae Maxine Johnson wedi bod yn codi ymwybyddiaeth o beryglon boddi ar ran Iechyd Cyhoeddus Cymru a Heddlu De Cymru.
Dywedodd y dylai rieni holi: “Ydych chi'n gwybod ble maen nhw? Ydym yn gwybod eu bod nhw’n mynd i nofio?
“Wyddwn i ddim ei fod yn y gronfa ddŵr. Roeddwn i'n gwybod ei fod yn gwersylla.
“Aeth hynny byth i mewn i fy mhen, achos roeddwn i'n meddwl bod hynny'n beth mor beryglus i'w wneud.
“Felly mae angen i chi wybod beth maen nhw'n ei wneud, ac yna yn amlwg mae angen i chi roi'r cyngor iddyn nhw a dweud wrthyn nhw beth allai ddigwydd os nad ydyn nhw'n gwybod hynny."
Ychwanegodd: “Y peth olaf dych chi ei eisiau yw rhywun yn eich ffonio neu'n rhoi cnoc ar eich drws ac yn dweud nad ydych chi byth yn mynd i weld eich plentyn eto.
“Os all hynny ddigwydd i mi gallai ddigwydd i unrhyw un.
“Mae pawb yn meddwl fod y pethau ‘ma yn digwydd i bobl eraill. Ond dw i’n un o'r bobl eraill hynny.”