Newyddion S4C

‘Mae rhedeg yn anodd mewn galar’: Dynes o Fethesda yn cwblhau Ras yr Wyddfa er cof am ei gŵr

27/07/2024

‘Mae rhedeg yn anodd mewn galar’: Dynes o Fethesda yn cwblhau Ras yr Wyddfa er cof am ei gŵr

“Mae rhedeg yn teimlo’n lot anoddach ers colli Bow, ond dwi ddim isho colli’r darn yna ohona fi.”

Mae dynes o Fethesda a wnaeth redeg Ras yr Wyddfa er cof am ei gŵr wedi codi miloedd o bunnoedd tuag at elusen canser y perfedd.

Ddydd Sadwrn diwethaf, roedd Gwenllïan Dafydd, 35 oed, ymhlith cannoedd o bobl ar linell ddechrau’r ras i gopa’r Wyddfa ac yn ôl i’r man cychwyn ym mhentref Llanberis.

Er yn rhedwraig brofiadol, dyma’r tro cyntaf i Gwenllïan fentro’r ras heriol hon. Yr ysgogiad i redeg y ras eleni oedd i godi arian tuag at elusen Bowel Cancer UK.

Roedd yr achos yn un o blith sawl elusen a wnaeth gynnig cymorth i’w gŵr, Gareth ‘Bow’ Owen Jones, ar ôl ei ddiagnosis â chanser y perfedd yn 2020.

Wedi 20 mis o driniaeth, bu farw Gareth yn 43 oed ar 28 Rhagfyr 2023. 

Treuliodd Gwenllïan gyfnod sylweddol o’r cyfnod yma yn gofalu am ei gŵr.

Dywedodd Gwenllïan wrth Newyddion S4C: “Cyn i Bow fynd yn sâl, neshi Marathon Eryri a Marathon Llundain, so o ni yn rhedeg yn fwy cynt.

Image
Gwenllian yn gwneud ei ffordd i lawr yr Wyddfa (Llun: Sports Pictures Wales)
Gwenllian yn rhedeg i lawr yr Wyddfa (Llun: Sportspictures Cymru)

“Oedd o’n cefnogi fi gymaint efo fy rhedag, oedd ‘n dod i bob ras a just edrych ar ôl fi ar ôl training runs, oedd o’n rhan fawr o be oeddan ni’n neud. 

“Pan oedd o’n sâl, fyswn i’n mynd am runs tra oedd o’n ysbyty weithia. O’n i’n defnyddio rhedeg i helpu copïo, oedd o’n rhan mor bwysig o sut o’n i’n ymdopi efo gofalu"

'Annaturiol'

Ychwanegodd Gwenllïan: “Ers iddo fo farw, mae rhedeg yn teimlo’n mor anodd ag annaturiol. Ond o be dwi di ddarllen, mae hynny’n rhywbeth eitha cyffredin pan ti’n mynd trwy galar mawr. Ti just di blino o bob dim.

“Dwi’n teimlo fel bod galar wedi gwneud rhedeg yn rili, rili anodd. Dwi’n teimlo fel dwi ddim yr un person ag o ni cynt, mae’n teimlo fel bod bob cell yn corff fi wedi newid. 

“Mae’n anodd dychmygu faint mae o’n effeithio bywyd chdi, a pan mae’n digwydd, mae bob dim yn newid.”

Gyda help ei ffrind Rhian o glwb rhedeg Eryri Harriers, fe gyrhaeddodd Gwenllïan gopa’r Wyddfa a llwyddo i gwblhau’r ras.

Image
Gwenllïan (dde) a'i ffrind Rhian, a rhedodd Ras yr Wyddfa gyda'u gilydd
Gwenllïan (dde) a'i ffrind Rhian, a rhedodd Ras yr Wyddfa gyda'u gilydd (Llun: Sportspictures Cymru)

“Oedd o’n uffernool o anodd. Dwi di neud lot o bethau anodd, ond oedd hwn ar lefel wahanol. Nesh i redeg o efo Rhian a sw ni wirioneddol heb orffan hebddi hi. 

“Y holl ffordd i fyny o’n i just yn deud 'dwi’m yn siŵr os fedrai neud hyn', a odd hi just yn hollol cadw fi fynd ag odd y stiwardiaid ar y mynydd, a’r rhedwyr eraill, yn deud ‘caria mlaen’. 

"Pan neshi gyrraedd y top, do’n i just methu coelio bo fi di gallu neud. Odd o just pen i lawr i gal adra wedyn.

“Dwi mor falch bo fi di neud o. Mae’n teimlo fel rhan bach o fi yn dod yn ôl, mewn ffor.”

Image
Gwenllian gyda rhieni Gareth, Norman a Carys Jones
Gwenllian gyda rhieni Gareth, Norman a Carys Jones

Cefnogaeth

Mae ei hapêl codi arian wedi cyrraedd dros £4,000 bellach. Ac mae’r gweithgaredd elusennol gan ffrindiau a theulu Gareth ar ôl ei farwolaeth bellach wedi codi dros £20,000 i elusennau canser, gan gynnwys ward Alaw Ysbyty Gwynedd.

“Mae’r gefnogaeth di bod yn anhygoel,” ychwanegodd Gwenllïan.

“Nath (ward) Alaw, Macmillan a Marie Curie i gyd helpu lot ar ôl i Bow gael y diagnosis. Ond efo hwn, oni’n teimlo fel gan bod hwn di’r peth cynta dwi’n neud er cof am Bow, y lle cynta eshi rili oedd Bowel Cancer UK. 

Image
Gareth 'Bow'
Gareth ‘Bow’ Owen Jones

“Mae bowel cancer yn ganser sneaky ac mae’r triniaeth yn ofnadwy. Di pobol ifanc ddim fel arfer yn gwybod bod nhw efo fo tan bod o’n reit hwyr ac mae 'na rise yn y pobol ifanc sy’n cael o.

“Mae o dal yn ofnadwy o anghyffredin ond mae o definietly yn mynd yn fwy cyffredin. So dwi just isho bobl bod yn ymwybodol o newidiadau yn corff nhw, a just bod yn wyliadwrus. 

“Achos oedd Bow y person mwya ffit, mwya iach. Oedd o’n cerddad mynydd lot, oedd o’n rhedeg 5k’s, a oddo’n rili licio dringo hefyd. Oedd o’n rili actif.

“Oddo heb fod i ddoctor ers rhyw wyth mlynadd, felly oedd o’n hollol sioc i bawb pan gafodd o’r diagnosis.

“Oedd o’n un o’r bobol mwya amazing erioed a dwi’n meddwl bod faint ma bobol di roid yn dangos huna. 

“Mae ffrindiau fo di codi lot o arian iddo fo hefyd, yn rhedeg marathons a pethau, ac mae’n dangos faint oedd pawb yn caru fo. Sa fo wrth ei fodd.”

Yn ôl y Gwasanaeth Iechyd, gall symptomau canser y perfedd gynnwys:

- Newidiadau yn eich carthion, fel dolur rhydd, neu gwaed yn eich carthion
- Angen mynd i'r toiled yn amlach neu'n llai aml nag arfer i chi
- Gwaedu wrth fynd i'r ty bach
- Poen yn y bol neu lwmp yn eich bol
- Colli pwysau heb geisio gwneud hynny
- Teimlo'n flinedig iawn am ddim rheswm

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.