Newyddion S4C

Ail ddyn wedi ei gyhuddo o ymosodiad ar ôl aflonyddu ar Chris Whitty

Sky News 06/07/2021
Chris Whitty
NS4C

Mae ail ddyn wedi ei gyhuddo o ymosodiad ar ôl aflonyddu Prif Swyddog Meddygol Lloegr, Yr Athro Chris Whitty, yn Llundain wythnos diwethaf.

Mae Jonathan Chew, 24, wedi ei gyhuddo o ymosodiad cyffredin ac o rwystro'r heddlu, meddai Sky News.

Bydd yn ymddangos o flaen Llys Ynadon Westminster yn ddiweddarach ddydd Mawrth.

Cafodd ymchwiliad ei lansio ar ôl i'r Athro Whitty gael i aflonyddu mewn parc yn y ddinas nos Sul, 27 Mehefin.

Yn gynharach wythnos diwethaf, cafodd Lewis Hughes, 23, ei gyhuddo o ymosodiad.

Darllenwch y stori'n llawn yma.

Llun: Wikimedia Commons

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.