Cymeradwyo cynllun i ddatblygu cartrefi ger hen safle hanesyddol yn Llangefni
Mae cynllun i ddatblygu cartrefi drws nesaf i hen safle dinesig hanesyddol ar Ynys Môn wedi ei gymeradwyo.
Cymeradwyodd pwyllgor cynllunio'r ynys yn unfrydol gais llawn i godi chwe uned breswyl ger adeilad yr hen orsaf heddlu yn Llangefni.
Cafodd cyn bencadlys rhestredig Gradd II y cyngor ei ddinistrio mewn tân ar 17 Rhagfyr, 2023.
Mae’r datblygiad newydd wedi’i gynllunio i’r de ddwyrain o’r adeilad, ar Ffordd Glanhwfa, y tu ôl i’r hen orsaf heddlu a’r llys ynadon.
Gwnaethpwyd newidiadau i'r cynlluniau gwreiddiol gan leihau'r unedau o saith i chwech.
Dilynodd pwyllgor cynllunio Cyngor Sir Ynys Môn argymhellion swyddogion, gan roi sêl bendith mewn cyfarfod ddydd Mercher.
Mae'r safle yn ffinio â maes parcio Cyngor Sir Ynys Môn gyda llwybr cerdded i'r gogledd.
Byddai'r datblygiad yn defnyddio'r fynedfa bresennol o Ffordd Glanhwfa gyda 15 o lefydd parcio.
Aelodau lleol
Yr oedd y mater wedi ei alw yn ôl i'r pwyllgor gan yr aelodau lleol, y Cynghorydd Nicola Roberts a'r Cynghorydd Geraint ap Ifan Bebb.
Roeddent wedi codi pryderon lleol am or-ddatblygiad, llifogydd, priffyrdd, effaith ar yr adeilad hanesyddol cyfagos, yr angen am y math o unedau, parcio a mynediad i mewn ac allan o'r safle.
Roedd gan y cyngor tref hefyd bryderon am ddraeniad a dŵr wyneb, llinellau pŵer uwchben, llifogydd oherwydd agosrwydd yr Afon Cefni gerllaw, “yr effaith ar Adeilad Rhestredig Gradd II," “yr effaith niweidiol” ar gymeriad yr ardal a dref, ei angen, bygythiad i goed aeddfed a bywyd gwyllt, effaith ar y clwb rygbi, a phryderon nad oedd “yn y lleoliad cywir”.
Roedd y pwyllgor cynllunio wedi cynnal ymweliad safle ar 19 Mehefin.
Dywedodd y Swyddog Cynllunio Rhys Jones: “Mae safle’r cynnig wedi’i leoli o fewn ardal gadwraeth Llangefni, ger Neuadd y Sir, sy’n adeilad rhestredig Gradd II a chapel Methodistiaid Calfinaidd Moriah, sy’n adeilad rhestredig Gradd II, gan gynnwys wal y cwrt blaen a’r giât.”
Byddai'n cynnwys adeilad tri llawr gyda'r gofod to yn cael ei ddefnyddio at ddibenion preswyl, ac yn cynnwys chwe fflat ar draws tri llawr a gofod atig.
Byddai'r llawr gwaelod yn cynnwys ystafell ardd/storfa/toiled.
Roedd y Cynghorydd Nicola Roberts yn “falch” bod materion megis dylunio a llifogydd wedi cael sylw.
“Dw i hefyd yn falch bod yna gyfraniad yn mynd i dai cymdeithasol, does neb wedi bod yn ôl ata i, felly dwi’n hapus i’r pwyllgor gymeradwyo.” meddai.
Cynigiodd y Cynghorydd Geraint ap Ifan Bebb ganiatáu'r datblygiad, gan ddweud bod ychydig o bobl sy'n byw yn yr ardal wedi codi pryderon ond nad oeddent wedi gwrthwynebu.