Newyddion S4C

Galw'r Senedd yn ôl ar 6 Awst i enwebu Prif Weinidog newydd

25/07/2024

Galw'r Senedd yn ôl ar 6 Awst i enwebu Prif Weinidog newydd

Fe fydd aelodau'r Senedd yn dychwelyd i Gaerdydd yn nechrau Awst er mwyn i'r broses o enwebu Prif Weinidog newydd gael ei chwblhau.

Mewn datganiad ysgrifenedig ddydd Iau, dywedodd y Prif Weinidog presennol Vaughan Gething y byddai'r penodiad yn digwydd ar 6 Awst.

"Rwyf heddiw wedi ysgrifennu at y Llywydd, yn unol â Rheol Sefydlog 12.3, i ofyn i drefniadau gael eu gwneud i adalw'r Senedd ar 6 Awst i enwebu Prif Weinidog newydd," meddai.

"Mae hyn yn amodol ar dderbyn cymeradwyaeth Ei Fawrhydi y Brenin o'm cynnig ffurfiol o ymddiswyddiad."

Dywedodd Elin Jones AS, Llywydd y Senedd: “Cefais gais gan y Prif Weinidog i adalw’r Senedd er mwyn i Aelodau enwebu’r person nesaf i gymryd rôl Prif Weinidog Cymru. 

"Rwyf wedi derbyn y cais ac rwyf wedi ysgrifennu at Aelodau o’r Senedd i’w hysbysu am yr adalw.”

'Anrhydedd'

Mae Eluned Morgan eisoes wedi cymryd lle Vaughan Gething fel arweinydd Llafur Cymru, a gyhoeddodd ei ymddiswyddiad yr wythnos diwethaf ar ôl pedwar mis yn unig yn y swydd.

Fe wnaeth yr enwebiadau ar gyfer y swydd gau am 12:00 ddydd Mercher a’r Farwnes Morgan, 57 oedd yr unig ymgeisydd.

Cadarnhaodd y Blaid Lafur mai hi bellach yw arweinydd newydd Llafur Cymru brynhawn dydd Mercher - ac o ganlyniad hi hefyd fydd y Prif Weinidog newydd maes o law.

Mewn datganiad, dywedodd y Farwnes Morgan ei bod hi’n “wirioneddol yn anrhydedd” i fod y fenyw gyntaf i arwain Llafur Cymru ac i gael ei henwebu i fod yn Brif Weinidog.

Meddai: “Rydw i eisiau sicrhau bod pawb yng Nghymru yn cael y cyfle a’r gallu i gyflawni eu potensial.

“Roedd Huw Irranca-Davies a minnau’n sefyll yn fel partneriaeth balch, ac rydym wrth ein bodd ein bod wedi derbyn cefnogaeth aruthrol Aelodau Seneddol Llafur Cymru a chefnogaeth o bob rhan o Gymru a’r mudiad Llafur ehangach."


 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.