Newyddion S4C

Un o'r prif hewlydd i'r Sioe Frenhinol ar gau am gyfnod wedi gwrthdrawiad

25/07/2024
felinfach llyswen.png

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys fore dydd Iau bod un o'r prif hewlydd i'r Sioe Frenhinol ym Mhowys ar gau wedi gwrthdrawiad.

Dywedodd yr heddlu fod yr heol ar yr A470 rhwng Felinfach a Llyswen ar gau am gyfnod yn dilyn gwrthdrawiad ger cyffordd yr A438.

Ychwanegodd y llu y dylai pobl osgoi'r ardal a dod o hyd i ffyrdd eraill ar gyfer eu teithiau. 

Cyhoeddodd yr heddlu am hanner dydd fod y ffordd wedi ail-agor.

Mae'r Sioe Frenhinol yn Llanelwedd yn dod i ben ddydd Iau.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.