Cyhuddo dyn o geisio llofruddio wedi i filwr gael ei drywanu
Mae dyn wedi wedi cael ei gyhuddo o geisio llofruddio wedi i filwr gael ei drywanu yng Nghaint.
Cafodd Anthony Esan, 24, ei gyhuddo wedi'r ymosodiad yng ngerddi Sally Port yn Chatham ddydd Mawrth.
Digwyddodd yr ymosodiad honedig ger cartref y milwr yn Barics Brompton ychydig cyn 18:00.
Cafodd Esan ei arestio am tua 18:30 ar yr un noson ger ei gartref yn Rochester yn ôl yr heddlu.
Mae hefyd wedi cael ei gyhuddo o fod ag arf yn ei feddiant mewn man cyhoeddus.
Dywedodd yr heddlu fod y milwr wedi cael ei gludo i'r ysbyty am driniaeth, ac ei fod ar hyn o bryd mewn cyflwr difrifol ond sefydlog.
Cafodd Esan ei gadw yn y ddalfa yn dilyn y gwrandawiad yn Llys Ynadon Medway.
Llun: PA