James Cleverly a Tom Tugendhat yn y ras i olynu Rishi Sunak fel arweinydd y Ceidwadwyr
Wedi i Rishi Sunak ddweud y bydd yn camu lawr fel arweinydd y Blaid Geidwadol ar ôl i'r blaid golli 250 o seddi yn yr Etholiad Cyffredinol, pwy sy'n debygol o'i olynu?
Hyd yn hyn, dau sydd wedi datgan yn gyhoeddus eu bod yn ymgeisio i olynu Mr Sunak, sef Tom Tugendhat a James Cleverly.
Bydd Mr Sunak yn parhau fel arweinydd tan y bydd olynydd yn cael ei benodi, gyda'r enillydd yn cael ei gyhoeddi ar 2 Tachwedd.
James Cleverly oedd y person cyntaf i ddatgan ei fwriad i olynu Mr Sunak.
Yn ysgrifennydd cartref y Ceidwadwyr, dywedodd Mr Cleverly ei fod yn gallu "uno'r blaid Geidwadol".
Mewn fideo ar y cyfryngau cymdeithasol, pwysleisiodd ei brofiad yn y gorffennol, wedi iddo weithio fel ysgrifennydd cartref a thramor, ac fel cadeirydd y blaid pan enillodd y Ceidwadwyr yr etholiad yn 2019.
Cafodd Mr Cleverly ei ethol am y tro cyntaf fel AS Ceidwadol ar gyfer Braintree ym mis Mai 2015.
Tom Tugendhat ydy Gweinidog Diogelwch y Ceidwadwyr, ac mae eisoes wedi ymgeisio i fod yn arweinydd yn 2022.
Mae AS Tonbridge wedi awgrymu y byddai'n fodlon gadael y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol os byddai'n hanfodol i ddiogelu ffiniau'r DU.
Mae Mr Tugendhat wedi gwadu y byddai'r blaid yn cael ei gwahanu yn sgil y ras i fod yn arweinydd, gan ddweud fod "pob Ceidwadwyr yn rhannu'r un synnwyr cyffredin" ar amddiffyn y wlad a sero net.
Mae enwau eraill wedi cael eu crybwyll ar gyfer y ras hefyd, gan gynnwys Kemi Badenoch, Suella Braverman, y Farwnes Priti Patel, Robert Jenrick a Mel Stride.
Mae Jeremy Hunt a Victoria Atkins eisoes wedi datgan na fyddan nhw yn ymgeisio i fod yn arweinydd y blaid.