Newyddion S4C

Cynnal protest wedi i fideo ddangos heddwas yn cicio dyn ym maes awyr Manceinion

25/07/2024
cicio maes awyr Manceinion

Mae criw o bobl wedi protestio y tu allan i orsaf heddlu ym Manceinion Fwyaf wedi i fideo ddangos heddwas yn cicio dyn ym maes awyr y ddinas.

Fe wnaeth protestwyr yn Rochdale gyhuddo'r heddlu o hiliaeth sefydliadol, gan weiddi "Rhag eich cywilydd chi".

Dywedodd Heddlu Manceinion Fwyaf eu bod yn deall "pryder" y bobl a'u bod yn parchu eu hawl i brotestio, gan ychwanegu fod y brotest wedi gorffen "yn ddiogel heb ddigwyddiad".

Mae'r llu wedi cyfeirio ei hun am ymchwiliad ac wedi rhyddhau swyddog o'i ddyletswyddau yn sgil y fideo. 

Cafodd y fideo ei ffilmio ym maes awyr Manceinion nos Fawrth, ac roedd yn dangos heddwas yn cicio dyn yn ei ben, tra bod swyddogion eraill yn gweiddi ar bobl i aros i ffwrdd. 

Cafodd y fideo ei rannu yn eang ar gyfryngau cymdeithasol, gyda'r llu yn ei ddisgrifio yn "gwbl warthus".

Dywedodd yr heddlu eu bod wedi cael eu galw i'r maes awyr am 20:25 ddydd Mawrth wedi adroddiadau o ffrae. 

Ychwanegodd y llu bod tri o'u swyddogion wedi cael eu hanafu tra'n ceisio arestio person, gyda phob un ohonynt angen triniaeth yn yr ysbyty. 

Cafodd pedwar dyn eu harestio yn y digwyddiad am achosi affráe ac ymosod ar weithwyr gofal brys. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.