Gemau Olympaidd: Profiad 'sbesial' i'r tair Cymraes yn nhîm rygbi saith bob ochr

Gemau Olympaidd: Profiad 'sbesial' i'r tair Cymraes yn nhîm rygbi saith bob ochr
O’r 14 o fenywod fydd yn cynrychioli Tîm GB yng nghystadleuaeth rygbi saith bob ochr yn y Gemau Olympaidd ym Mharis eleni, mae tair ohonyn nhw yn enedigol o Gymru.
Bydd Jaz Joyce, 28 oed o Dyddewi, Meg Jones, 27 oed o Gaerdydd, a Kayleigh Powell, 25 oed o Donyrefail, yn edrych ymlaen at gynrychioli eu gwlad yn rhan o dîm Brydain, medden nhw.
A hithau’n chwarae i dîm rygbi Lloegr gan iddi symud yno i dderbyn ei haddysg uwch, mae Meg Jones yn benodol, yn falch o allu cynrychioli Cymru gyda’i chit Prydeinig.
“Mae’n rhywbeth dwi’n meddwl am. Mae Dad yn bwysig i fi, mae’n Gymro rili prowd.
“Doedd e ddim yn anodd i fi mynd i Loegr ond oedd e’n gwybod pam o’n i ‘di ‘neud e ac ‘odd e ‘di cefnogi fi trwy’r holl journey.
“Felly oedd e’n bwysig i fi gwisgo crys Prydain oherwydd mae’n bwysig i Dad fi.
“Dwi gallu cynrychioli Cymru tipyn bach,” meddai.
'Sbesial'
Dyma fydd y trydydd tro i Jaz Joyce gynrychioli Tîm GB yn y Gemau Olympaidd wedi iddi gystadlu yng Ngemau Olympaidd Rio de Janeiro yn 2016, yn fenyw 20 oed, cyn cymryd rhan yn Tokyo yn 2021.
Joyce fydd y chwaraewr rygbi cyntaf o Brydain i ymddangos yn y gemau ar dri achlysur.
“’Nes i fwynhau’r foment a bod yn bresennol a jyst bod yna a bod yn rhan o’r Gemau Olympaidd.
“Am y trydydd un, dwi jyst am rili trio mwynhau bob eiliad.
“Bydd hi’n heriol i ni gyrraedd y pedwar olaf ond fe gawsom ni bencampwriaeth rili dda yn Hamburg yn ddiweddar yn chwarae Iwerddon a Ffrainc, felly mae ‘na gystadleuaeth dda i ni a ‘dyn ni’n adeiladu yn rili, rili dda.”
Ac mae Kayleigh Powell, sydd ar y rhestr wrth gefn y tîm, yn dweud ei bod yn mwynhau gwisgo cit Tîm GB yn ogystal, gan ddweud “nid pawb sy’n cael gwneud.”
“I ddweud fy mod i wedi gwisgo hi ac yn berchen arni hi, mae’n eitha’ sbesial.
“Fydd hi ddim rili yn cymharu – mae’n wahanol – dwi wastad wedi eisiau chwarae i Gymru felly pob tro dwi’n gwisgo’r crys coch, mae’n mor sbesial.”