Newyddion S4C

Pryderon bod poblogaeth gogledd Môn yn heneiddio wrth i bobl oed gwaith adael yr ynys

24/07/2024

Pryderon bod poblogaeth gogledd Môn yn heneiddio wrth i bobl oed gwaith adael yr ynys

Gwlad y Medra ond sy'n methu'n economaidd.

Mae adroddiad gan Gyngor Môn yn nodi bod rhannau o'r ynys y gogledd yn benodol, wedi bod yn dirywio ers dau ddegawd o leiaf gan adael poblogaeth sy'n heneiddio a'r Gymraeg yn gwanhau.

Hefyd, bod 'na ddirfawr angen am fuddsoddiad sylweddol.

Yn ôl un fam sy 'di byw ar y Fam Ynys ar hyd ei hoes yn Llanfechell, dafliad carreg o safle Wylfa mae'r newid cymdeithasol 'di bod yn amlwg dros y blynyddoedd.

"Mae colli swyddi wedi cael hit ofnadwy ar deuluoedd ifanc.

"Mae'r pentref a'r ardal wedi mynd yn hŷn ac mae'n anodd i deuluoedd ifanc dod yn ôl i'r pentref a'r ardal oherwydd diffyg tai a diffyg gwaith."

Dirywiad i ddiwydiannau sy'n gyfrifol yn ôl yr ymchwil.

500 o swyddi yn diflannu gyda chau ffatri Octel yn Amlwch yn 2004.

Cau Aliwminiwm Môn yn 2009 a ffatri Rehau yn 2019 yn cau.

Ac yn ddiweddar, yr un o'dd tranc y 2 Sisters gyda 700 ar y clwt.

A dod â gwaith cynhyrchu yn Wylfa i ben yn 2015 i'w deimlo'n fawr.

Gyda cholli gwaith, mae 'na bryder am golli iaith hefyd gyda chwymp o 4% yn nifer y siaradwyr Cymraeg yn Amlwch a Llannerchymedd rhwng 2011 a 2021.

Ers tro, gobaith mawr rhai ym Môn i adfer yr economi yw adeiladu atomfa niwclear newydd i greu 1,000 o swyddi parhaol.

"And what are the specific plans for the Wylfa and Trawsfynydd sites?"

Mae 'di bod yn siwrnai hir yn barod a gwleidyddion, fel yr Aelod Seneddol newydd yn galw am amserlen.

"Ni 'di cael ein gadael i lawr wrth edrych ymlaen at Wylfa yn 2019.

"Oedden ni'n gobeithio 'swn ni 'di cael ateb a bod ni'n datblygu, bod yr economi'n symud a bod swyddi a bod bwrlwm yn ôl yn yr ardal."

Oes, mae 'na bwyslais ar Wylfa ond nid pawb sy am weld atomfa newydd.

Mae 'na syniadau eraill yn yr adroddiad hefyd byddai'n rhoi hwb i'r ynys gyfan fel yn Amlwch.

Mae oes aur y diwydiant copr yn Mynydd Parys yn perthyn i hanes.

Mae'r adroddiad yn argymell datblygu mwy o unedau busnes yno.

"'Dan ni ddim eisiau rhoi ein hwyau i gyd yn yr un fasged.

"Ni 'di dysgu'r wers wrth gael ein gadael i lawr dros y blynyddoedd.

"Mae mwy 'na Wylfa a dyna pam mae cynllun busnes i'r Porthladd Rhydd.

"Mae denu gwaith i'r ardal sy ddim yn ddibynnol ar Wylfa yn hollbwysig."

Dyw'r ynys hon sicr ddim yn brin o brydferthwch sy'n llwyddo denu miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn ond yn ôl pobl Môn, denu gwaith a buddsoddiad sydd angen nawr.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.