Atal dyn o'r Fenni rhag cadw anifeiliad am 10 mlynedd wedi iddo gam-drin ei gi ar gamera
Mae dyn o’r Fenni wedi ei atal rhag cadw anifeiliaid am 10 mlynedd wedi iddo gael ei ddal yn cam-drin ei gi ar gamera.
Fe ymddangosodd Matthew Luke Russell, 21 oed, o flaen Llys Ynadon Casnewydd ddydd Mawrth ar ddau gyhuddiad yn ei erbyn.
Cafodd ei gyhuddo o achosi poen ddiangen i fath o gi frid pitbull, o’r enw Brad, drwy ymosod arno’n gorfforol.
Fe wnaeth o hefyd achosi i gi arall, Mercy, dioddef yn ddiangen wedi iddo fethu a mynd a hi i’r milfeddyg er mwyn iddi dderbyn triniaeth am glefyd cronig yn y glust.
Plediodd Mr Russell yn euog i’r cyhuddiad cyntaf yn ei erbyn, ac fe'i cafwyd yn un euog o’r ail.
Daw wedi i fideo o Mr Russell gael ei rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol yn ei ddangos yn cam-drin ei gi, Brad.
Roedd yn dangos Mr Russell yn taro’r ci chwech o weithiau cyn ei lusgo a’i fwrw ar ei ben unwaith eto.
Dywedodd un milfeddyg mewn adroddiad tyst arbenigol a gafodd ei gyflwyno i’r llys, fod Brad y ci wedi “dioddef poen corfforol a thrallod meddwl” o ganlyniad i’r gamdriniaeth.
Cafodd Mr Russell ddedfryd o 12 wythnos o garchar wedi'i gohirio am 12 mis am y drosedd gyntaf ac 14 wythnos o garchar wedi'i gohirio am yr ail.
Bydd disgwyl iddo gyflawni 180 awr o waith di-dâl yn ogystal â 20 ddiwrnod o weithgareddau adferiad. Cafodd orchymyn hefyd i dalu £650 yn ogystal â £154 o ordal dioddefwr.
Dywedodd Dirprwy Brif Arolygydd yr RSPCA Gemma Cooper ei bod yn diolch i Heddlu’r Gwent am eu cydweithrediad, yn ogystal â’r person a wnaeth ddarparu’r dystiolaeth fideo.
Prif lun: Mercy