Dau yn ennill Medal Goffa Syr TH Parry-Williams am y tro cyntaf

Linda Gittins a Penri Roberts

Bydd Medal Goffa Syr TH Parry-Williams yn cael ei chyflwyno i fwy nag un person am y tro cyntaf yn ei hanes ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Rhondda Cynon Taf eleni. 

Tan eleni, mae’r Fedal wedi’i chyflwyno’n flynyddol i unigolyn sydd wedi gwneud cyfraniad gwirioneddol yn eu hardal leol, gyda phwyslais arbennig ar weithio gyda phobl ifanc.

Ond ar faes y ‘Steddfod ym Mhontypridd eleni, fe fydd Linda Gittins a Penri Roberts yn eistedd ar lwyfan y Pafiliwn ar y cyd er mwyn cael eu hanrhydeddu.

Fe fydd y ddau yn derbyn y Fedal er mwyn dathlu eu hymroddiad i bobl ifanc cefn gwlad canolbarth Cymru, wedi iddyn nhw sefydlu Cwmni Theatr Maldwyn dros 40 mlynedd yn ôl.

Cafodd y cwmni ei sefydlu ar y cyd gan y pâr a’r diweddar Derec Williams ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn ym Machynlleth yn 1981, ac yn ystod y degawdau diwethaf mae’r cwmni wedi sefydlu enw da am eu sioeau theatrig Cymraeg – gan gynnwys ‘Ann!’, ‘Y Mab Darogan’ a ‘Pum Diwrnod o Ryddid’.

Dywedodd Linda Gittins a Penri Roberts eu bod yn “hynod falch” o dderbyn y Fedal, ond bod y ddau hefyd yn cofio am eu cydweithiwr a’u ffrind, Derec Williams.

“Roedden ni’n gweithio fel triawd, nid fel tri unigolyn. Y tri ohonon ni a sylfaenodd Gwmni Theatr Maldwyn, ac mae’r Fedal hon gymaint iddo fo ag i ni’n dau.

"I’r tri ohonon ni, y sioe oedd bwysicaf ac roedd gweld llwyddiant honno a mwynhad y criw a'r cast yn ddiolch ynddo'i hun. Wnes i erioed feddwl y buaswn yn derbyn y fath anrhydedd,” meddai Linda Gittins.

'Sioc'

Dywedodd y ffrindiau eu bod yn ddiolchgar i’r Eisteddfod am y fath anrhydedd – er nad oedd yr un o’r ddau wedi disgwyl cael eu henwebu.

Cafodd y ddau wybod y byddant yn cael eu gwobrwyo yn ystod ymarferiad o'u sioe ‘Pum Diwrnod o Ryddid’, a fydd yn teithio Cymru yn ddiweddarach eleni.

"Cefais wybod bod criw teledu am ein ffilmio ni'n ymarfer ar gyfer eitem, a ro’n i ar ganol egluro hyn i’r criw pan ddaeth Alwyn Siôn i sefyll o flaen pawb a dweud wrtha i a Linda am eistedd i lawr! Ac yna, fe eglurodd am y Fedal. 

"Wel, am sioc,” meddai Penri Roberts.

Roedd Syr TH Parry-Williams yn gefnogwr brwd o’r Eisteddfod Genedlaethol, ac yn Awst 1975, yn dilyn ei farwolaeth ychydig fisoedd ynghynt, sefydlwyd cronfa i goffáu’i gyfraniad gwerthfawr i weithgareddau’r Eisteddfod. Gweinyddir y gronfa gan Ymddiriedolaeth Syr Thomas Parry-Williams.

Bydd Penri Roberts a Linda Gittins yn derbyn y Fedal ar lwyfan y Pafiliwn am 12:30 dydd Mawrth, 6 Awst. 

Bydd Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf yn cael ei chynnal ym Mharc Ynysangharad, Pontypridd o 3-10 Awst. 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.