Newyddion S4C

'Pryderu a gofidio': Cysgod y diciâu dros adran wartheg y Sioe Frenhinol

'Pryderu a gofidio': Cysgod y diciâu dros adran wartheg y Sioe Frenhinol

Mae pryder cynyddol ymysg ffermwyr yn y Sioe Frenhinol eleni am effaith y diciâu - a hynny wrth i nifer y cystadleuwyr yn adran y gwartheg syrthio ers y llynedd.

Mae afiechyd TB wedi cael effaith ar nifer o ffermwyr ar draws Cymru, ac ar hyn o bryd mae profion yn orfodol ar gyfer pob fferm wartheg yn y wlad er mwyn ceisio rheoli'r clefyd.

Ar faes y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd mae nifer o'r rhai sydd wedi mentro i gystadlu yn dweud eu bod nhw'n pryderu ac yn rhagweld y byddwn nhw'n cael eu heffeithio.

“Ma’ fe’n mynd i fod yn rhywbeth sy’n mynd i fod yn mater o pryd fydd e, nid os ddeith e, ar diwedd y dydd," meddai Ifan Phillips o Gastell Newydd Emlyn.

“Y’n ni’n testo ar, gwedwch dydd Llun a tsieco nhw ar dydd Iau a ma’r nosweithiau ‘na, ti’n gorwedd yn gwely ac yn meddwl, all e fod yn wahaniaeth rhwng dod i’r show neu beidio.

“Ond ma’ pethe mwy pwysig na fynd i’r show, chi’mod mae bywoliaeth pobl ar y lein. Ma’r bois ‘ma sy’ yn dibynnu ar y ffarm i wneud incwm, ma TB yn dorcalonus.

“S’dim y tests yn ddigon da o bell ffordd.”

Wedi teithio o Gaerwen ar Ynys Môn, mae Aled Roberts wedi ennill pum cystadleuaeth yn y sioe eleni.

“Mae’n brilliant, ma’r lle yn llawn pobl a ma’r haul allan arnom ni, ma pob peth yn edrych yn dda ‘ma," meddai wrth Newyddion S4C.

Ond ymysg y dathliadau mae pryder TB yn dal ar ei feddwl.

“Ma’ rhywun yn poeni’n ofnadwy amdano fo achos, pa bryd daw o i ni fel unigolion dwi’m yn gwybod, ond mae o yn boen.

“O’n i isho testio TB i ddod i fama, ‘sa ‘na chance felly bod un o heina ‘di mynd lawr.

“Ma’n amser poenus iawn i iechyd meddwl ffermwyr."

Image
Gwartheg
Esyllt Price gyda'i gwartheg ar faes y Sioe Frenhinol.

'Rhan o'r teulu'

Mae teulu Esyllt Price, sydd yn ffermio yn Llanilar a Llandysul wedi bod yn cystadlu yn y sioe am nifer o flynyddoedd.

Eleni yw ei chweched tro yn y cylch gwartheg ac mae hi wrth eu bodd yn cystadlu.

Er bod ei gwartheg hi heb gael eu heffeithio gan TB, mae'n galw ar Lywodraeth Cymru i fynd ati i ddelio gyda'r broblem a chynnig cymorth i ffermwyr.

“Mae’n bryd bod nhw (Llywodraeth Cymru) yn neud rhywbeth ambwyti fe achos… dros Lloegr ma nhw’n neud y badger cull a ma’r levels yn dod yn llai," meddai.

“Ond yn anffodus, dyw Gaerdydd ddim moyn yr lefels ‘ma achos yn fy marn i ‘di nhw ddim ishe gwartheg, ma’ nhw ishe cael gwared ar ffermwyr, a’r ffordd gore o gael gwared o’r gwartheg yw dim gwella TB.

“Ma’ ishe bod nhw yn mynd mas i ffermydd a gweld pan ma nhw’n saethu’r buwchod ‘ma. Digon rhwydd i nhw eistedd yn Gaerdydd fyna a seino fforms a dweud bod rhaid i’r gwartheg ‘ma fynd.

“Ma’r gwartheg ma’n bart o deulu i lot o bobl a mae ‘di bod yn bryd i nhw ddechre ystyried.

“Achos ma lot o ffermwyr wedi colli eu bywydau, yn mynd a bywydau eu hunain o achos e. Digon hawdd i nhw gau eu llygaid pan ma fe’n uffern ar y ffarm ar y diwrnod TB testo."

Image
Gwartheg
Roedd nifer y cystadleuwyr yn adran y gwartheg eleni wedi gostwng

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod nhw yn ymwybodol am bryderon ffermwyr ac yn gweithio gyda'r diwydiant a meddygon er mwyn ceisio datrys y mater.

"Rydym yn benderfynol o ddileu TB buchol yng Nghymru," medden nhw.

"Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi clywed yn ystod Sioe Frenhinol Cymru a thrwy ymweliadau â ffermydd yr effeithir arnynt am y gofid y mae achos o TB yn ei achosi i ffermwyr, gweithwyr fferm, a'u teuluoedd. Mae'n rhywbeth yr ydym yn ymwybodol iawn ohono.

 "Rydyn ni'n gwrando ar bryderon ac yn gweithredu. Rydym eisoes wedi gwneud dau newid sylweddol i'n dull polisi a fydd yn symleiddio gweithdrefnau heb gynyddu’r risg o ledaenu'r clefyd.

 "Nid yw'n fater y gallwn ni ei ddatrys ar ein pennau ein hunain. Mae’n hanfodol fod ffermwyr, milfeddygon a'r Llywodraeth yn cydweithio. 

"Byddwn yn parhau i weithio gyda'r diwydiant i ddod o hyd i atebion."

Image
Gwartheg
Gwylio'r cystadlu fore Mercher.

Dyfodol y sioe yn y fantol?

Eleni yw'r eildro yn unig i James Dickson o Cynnen Livestock yn Sir Gaerfyrddin i gystadlu yn adran y gwartheg.

Ond mae'n pryderu yn barod am ddyfodol y sioe oherwydd TB, nid yn unig i gystadleuwyr ond i'r cyhoedd sydd yn dod i wylio'r cystadlu.

“Chi’n mynd lawr y lanes blwyddyn hyn a chi’n gweld stondinau sy’n wag a ma hwnna’n siom. Ma’ hwnna’n siom i’r sioe, mae’n siom i ni fel rhai sy’n dangos da achos cystadleuaeth yw e ar diwedd y dydd," meddai wrth Newyddion S4C.

“Llai o dda, llai o ddiddordeb, i’r sioe a’n gyffredinol a ma’ hwnna yn colled mawr dim yn unig i amaeth ond i gymdeithas Cymru hefyd."

Image
James Dickson
James Dickson yng nghanol y gylch gwartheg.

Dyma bryder sydd yn cael ei adleisio gan Esyllt Price ac Aled Roberts.

“Unwaith ma lefels y gwartheg ‘ma’n dod lawr, y broblem fydd os nad oes ‘da ti’r stoc i’r show fydd ddim mo’r show i gael. A mae angen i nhw ystyried ‘ny," meddai Miss Price.

“Os dewn ni ar draws e fydd rhaid ni ddod ar draws e pan fydd e yn dod. Ond ma’ rhaid i bob ffarmwr stico lan hefyd a gweud bod ni ddim yn cymeryd e rhagor.”

Dywedodd Mr Roberts: “Ma’ event fel hyn yn bwysig ofnadwy dwi’n meddwl achos ma’n cael pawb at ei gilydd a ma’r bwrlwm sy’ ‘ma, mae’r cyhoedd yn dod ‘ma, ma’r lle yn byrlymu efo pobl.

“Ma’n ffenast siop dda i amaethwyr Cymru- sa fo'n siom i'w golli."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.