Newyddion S4C

Canslo hediadau wrth i brotestwyr ludo eu hunain i llain lanio

24/07/2024
Aelod o'r grŵp Last Generation yn gludo ei hun i darmac maes awyr

Dyw awyrennau ddim yn cael hedfan yn un o brif feysydd awyr yr Almaen ar ôl i brotestwyr amgylcheddol ludo eu hunain i’r llain lanio.

Fe ddywedodd y grŵp, Last Generation yn gynharach bod pump o bobl wedi gludo eu hunain i’r tarmac ym maes awyr Cologne-Bonn. Ond bellach maent yn dweud bod tri wedi cael eu symud gan yr heddlu.

Mae dwsinau o hediadau wedi eu canslo neu eu gohirio yn y maes awyr.

Galw ar i Lywodraeth yr Almaen i geisio sicrhau cytundebau rhyngwladol i beidio defnyddio olew, nwy a glo erbyn 2030 mae’r grŵp.

Maent yn dweud bod protestiadau heddychlon eraill tebyg wedi eu trefnu mewn meysydd awyr ar draws Ewrop a gogledd America. 

Llun: Last Generation

 


 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.