Newyddion S4C

Milwr mewn cyflwr difrifol ar ôl cael ei drywanu

24/07/2024
Heddlu ymosodiad milwr

Mae milwr Prydeinig yn yr ysbyty gydag anafiadau difrifol ar ôl cael ei drywanu yng Nghaint.

Fe wnaeth yr heddlu ymateb ar ôl cael eu galw i “ymosodiad difrifol” ar ddyn yn ei 40au toc cyn 18:00 nos Fawrth mewn stryd yn Gillingham.

Cafodd dyn 24 oed ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth yn ddiweddarach.

Dywed yr heddlu nad ydynt yn credu bod yr ymosodiad yn gysylltiedig â therfysgaeth, a bod yn dyn sydd yn gyfrifol yn dioddef gyda phroblemau iechyd meddwl.

Mae’r stryd lle y cafodd y milwr ei drywanu yn agos i farics Brompton, sef pencadlys Ysgol Frenhinol Catrawd Peirianwyr y Fyddin.

Cafodd y milwr ei anfon i’r ysbyty ac mae mewn cyflwr difrifol.

Dywedodd llefarydd ar ran y fyddin: “Mae’n ddrwg iawn gennym gadarnhau bod milwr wedi cael anafiadau difrifol mewn ymosodiad yn Chatham, Caint.

“Mae ein meddyliau gyda’r milwr a’u teulu a gofynnwn i’w preifatrwydd gael ei barchu ar yr amser anodd hwn.”

Ychwanegodd: “Byddwn ni’n parhau i weithio’n agos gyda Heddlu Caint i ddeall beth ddigwyddodd a chefnogi’r ymchwiliad.

“Dylai unrhyw un a welodd yr ymosodiad neu sydd ag unrhyw wybodaeth berthnasol gysylltu â Heddlu Caint.”

Dywedodd y Prif Weinidog, Syr Keir Starmer, fod y digwyddiad wedi ei “syfrdanu a’i arswydo”.

Llun: Gareth Fuller/PA

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.