Newyddion S4C

Starmer yn gwahardd saith AS dros gap budd-dal lles dau blentyn

24/07/2024
Rebecca Long-Bailey

Mae Syr Keir Starmer wedi gwahardd saith Aelod Seneddol Llafur o'r blaid ar ôl iddyn nhw bleidleisio yn erbyn y Llywodraeth gan alw am ddileu’r cap ar fudd-dal lles dau blentyn.

Mae Richard Burgon, John McDonnell, Imran Hussain, Apsana Begum, Zarah Sultana, Rebecca Long-Bailey ac Ian Byrne i gyd wedi cael eu gwahardd am gyfnod o chwe mis wedi iddyn nhw alw am ddod â'r polisi dadleuol i ben.

Mae'r budd-dal lles dau blentyn yn atal bron pob rhiant rhag hawlio Credyd Cynhwysol neu gredyd treth plant ar gyfer mwy na dau o blant.

Mae'r swm sy'n cael ei roi i bob teulu yn dibynnu ar eu hincwm, eu maint, a'u costau gofal plant.

Ond mae rhai yn honni fod y cap yn gyfrifol am y lefel gynyddol o dlodi plant yn y DU.

'Codi plant allan o dlodi'

Yr SNP oedd wedi cyflwyno'r cynnig i ddileu'r cap.

Gyda mwyafrif o fwy na 174, fe lwyddodd Syr Keir i ennill o 363 pleidlais i 103.

Wrth ymateb i'w gwaharddiad, dywedodd Ms Sultana y byddai dileu'r cap yn "codi 330,000 o blant allan o dlodi".

"Dwi wedi cael gwybod gan y prif chwip ac arweinyddiaeth y Blaid Lafur bod y chwip wedi’i thynnu’n ôl oddi wrthai am bleidleisio i gael gwared ar y cap ar fudd-daliadau dau blentyn, a fyddai’n codi 330,000 o blant allan o dlodi," meddai.

"Fe fyddai bob amser yn sefyll i fyny dros y rhai mwyaf bregus yn ein cymdeithas."

Yn y gorffennol mae Syr Keir wedi dweud y dylai'r cap gael ei ddileu.

Ond fe wnaeth dro pedol ar y cynnig y llynedd oherwydd diffyg arian.

Y gred yw y byddai dileu'r cap yn costio tua £3 biliwn.

 

 
 
 
 
 
 
 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.