James Cleverly yw’r cyntaf i ymuno â’r ras i arwain y Blaid Geidwadol
Mae cyn ysgrifennydd tramor a chyn ysgrifennydd cartre y Deyrnas Unedig wedi cyhoeddi y bydd yn sefyll yn y ras i fod arweinydd newydd y blaid Geidwadol.
Mewn neges fideo ar y cyfrwng cymdeithasol X nos Fawrth, cyhoeddodd James Cleverly, sef yr AS dros etholaeth Braintree yn Essex, ei fwriad i sefyll gan ddweud ei fod yn benderfynol o “ail-sefydlu enw da” ei blaid.
Mr Cleverly yw’r aelod cyntaf o’r blaid i gyhoeddi y bydd yn sefyll yn y ras i fod yn arweinydd newydd y Ceidwadwyr.
Daw wedi i’r blaid gyhoeddi y bydd yr ymgyrch am yr arweinyddiaeth yn parhau am dri mis, cyn i’r ymgeisydd buddugol gymryd yr awenau oddi ar y cyn Brif Weinidog, Rishi Sunak, erbyn mis Tachwedd.
Mae Rishi Sunak eisoes wedi dweud y bydd yn parhau yn y rôl hyd nes i arweinydd newydd gael ei ethol.
Yn ei neges nos Fawrth, cyfeiriodd Mr Cleverly at ei fagwraeth, gan ddweud mai llywodraeth Geidwadol sicrhaodd yrfa lwyddiannus i’w fam a’i dad.
Dywedodd ei fod eisiau gweld y blaid Geidwadol yn trawsnewid i fod yn un sydd yn “helpu’r economi i ffynnu” a “helpu pobl i wireddu eu breuddwydion.”
Llun: Joe Giddens/PA Wire