Newyddion S4C

Diffoddwr tân wedi marw mewn damwain medd cwest

23/07/2024

Diffoddwr tân wedi marw mewn damwain medd cwest

Mae rheithgor mewn cwest yn Hwlffordd wedi dod i'r casgliad mai damwain oedd achos marwolaeth diffoddwr tân yn ystod ymarferiad badau achub yn 2019. 

Cafodd Joshua Gardener ei ladd pan darodd dau gwch yn erbyn ei gilydd tra'n teithio ar gyflymder cyflym ar Afon Cleddau ger Lawrenni, Sir Benfro. 

Clywodd y cwest i'r tad 35 oed gael anaf i'w ben.  

Roedd Josh Gardener yn byw yn Aberdaugleddau, ac yn aelod o Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru

Fe ymunodd â'r frigad dân ar ddiwedd 2018. 

Mewn datganiad wedi'r cwest, dywedodd teulu Mr Gardener eu bod yn croesawu'r ffaith y bydd yr ymchwiliadau gan y Gweithgor Iechyd a Diogelwch ac Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau yn parhau.

Llun: Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru


 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.