Ffliw adar: Ieir a cheiliogod yn dychwelyd i'r Sioe Fawr am y tro cyntaf ers pum mlynedd
Ffliw adar: Ieir a cheiliogod yn dychwelyd i'r Sioe Fawr am y tro cyntaf ers pum mlynedd
Mymryn o newyddion da i ddiwydiant sydd wedi bod dan y lach.
Ar ôl bod yn absennol o'r Sioe Fawr ers pum mlynedd achos ffliw adar mae'r ieir a'r ceiliogod yn ôl eleni.
"Mae'n hyfryd i weld e nôl.
"Mae'r hen ffarmwr bach yn gorfod ymdopi a bob peth.
"Rhaid cofio o le mae'r bwyd yn dod i'r wlad."
Roedd angen esgus i godi ysbryd ar ôl blwyddyn anodd welodd brotestiadau gan ffermwyr yn lledu ar draws Cymru.
Roedd Frances yn un o'r trefnwyr.
"Mae pobl wedi danto am y dyfodol.
"Pobl ifanc yn sicr oedran fi sa i'n credu bod nhw'n gweld golau ar hyd y twnnel.
"Mae dal yn dywyll iawn ar y funud."
Ansicrwydd dros ddyfodol cymorthdaliadau'r diwydiant sy'n rhannol gyfrifol am y drwgdeimlad.
Gyda dau o bwyllgorau'r Senedd yn lansio adroddiadau heddiw yn rhybuddio bod Cynllun Ffermio Cynaliadwy Llywodraeth Cymru wedi achosi lefelau digynsail o bryder.
"Er bod 'na 12 mis o oedi wedi bod ni ddim eisiau bod mewn sefyllfa le ni'n edrych ar Nadolig a ni dal ddim callach ynglŷn â beth fydd gweithrediadau fydd angen.
"Faint o arian, am beth fydd ar gael ac yn y blaen.
"Ni yn awyddus bod y gweinidog yn rhoi amserlen glir yn gyhoeddus."
Mynnu mae'r Ysgrifennydd Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies ei fod yn gweithio'n ddiflino i sicrhau bod y cynllun sybsidi newydd yn llwyddiant.
Mae grwpiau arbenigol wedi'i sefydlu i edrych yn fanwl ar y meysydd lle mae 'na anghytuno.
Beth nawr wedi datblygiadau gwleidyddol y dyddiau diwethaf?
"Ni eisiau sylfaen da a ni'n gobeithio bydd Huw Irranca-Davies yn cario 'mlaen efo amaeth.
"Dw i'n meddwl bod o efo berthynas da efo'r undebau.
"Ni eisiau fo i gario 'mlaen i gael y sefydlogrwydd a gael y flwyddyn i gael proses sy'n gweithio'n dda i bawb."
Mae 'na gwestiynau'n chwyrlio yma hefyd ynglŷn â faint o gyllideb fydd ar gael ar gyfer y cynllun newydd a hynny o gyfeiriad y Llywodraeth Lafur yn San Steffan.
Nid dim ond arweinwyr y diwydiant amaeth sydd am weld cynnydd yn faint sy'n cael ei drosglwyddo o'r Trysorlys i Fae Caerdydd.
Mae'r sector amgylchedd yn dweud bod angen swm sylweddol uwch os yw'r cynllun i daclo newid hinsawdd yn effeithiol.
Ydych chi fel y Llywodraeth newydd yn San Steffan yn mynd i gynyddu'r gyllideb sydd ar gael i ffermwyr Cymru?
"Be sy'n bwysig ydy gwrando ar ffermwyr a'r ffermwyr sydd ganddyn nhw anawsterau.
"Y lleoedd sy'n anodd iawn i ffermio yng Nghymru.
"Byddwn ni'n mynd a'r neges yn ôl.
"Bydd e lan i'r Canghellor i benderfynu sut i ariannu'r gronfa."
Wyth mlynedd ar ôl Brexit, mae'r gwaith o ddylunio ffordd newydd o ariannu'r diwydiant amaeth yn dal i fynd rhagddo.
Ffermwyr ac amgylcheddwyr yn dal i ddisgwyl am atebion.