Newyddion S4C

Rhieni 'ar eu colled' oherwydd system gofal plant 'ddryslyd'

24/07/2024
Meithrin / Gofal plant

Dyw nifer o rieni ddim yn medru manteisio ar gymorth gofal plant oherwydd system sydd yn “dryslyd” ac yn rhy anodd ei deall, medd adroddiad.

Mae’r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol yn dweud nad yw rhieni yn derbyn y cymorth gofal plant y mae ganddyn nhw hawl i'w gael gan ei bod yn rhy “gymhleth a digyswllt” i alluogi teuluoedd i hawlio cymorth.

Fel rhan o’u hadroddiad, dywedodd elusen Sefydliad Bevan wrth y Pwyllgor nad yw hanner y rhieni cymwys yn manteisio ar gymorth gofal plant.

Mae’r pwyllgor bellach yn galw ar Lywodraeth Cymru i “drwsio’r system” am yr eildro. Fe wnaethon nhw alwad tebyg yn 2022. Maent yn dweud fod angen creu un gwasanaeth “hollgynhwysol” ar gyfer gwybodaeth gofal plant. 
 

Mae’r adroddiad, a gafodd ei gyhoeddi ddydd Mercher, bellach yn beirniadu’r llywodraeth am y “diffyg cynnydd” y maen nhw wedi gwneud er mwyn mynd i’r afael â’r problemau “hir sefydlog” yn y system gofal plant.

Cydnabod bod rhai yn rhieni yn cael trafferth gwneud cais am ofal plant wna Llywodraeth Cymru ac maent yn dweud eu bod wedi lansio cynllun sydd yn cynnig cymorth a chyngor mewn un lle. 

'Annog'

Mae’r Pwyllgor yn annog Llywodraeth Cymru i grynhoi’r gwahanol ffrydiau cyllido gofal plant yn un ffrwd er mwyn ei gwneud hi’n haws i rieni hawlio'r cymorth sydd ar gael iddyn nhw. 

Ar hyn o bryd, mae tri chynllun gwahanol ar waith yng Nghymru, ac mae gan bob un ohonynt feini prawf gwahanol.

Fe all hynny olygu bod yn rhaid i rieni wneud sawl cais gwahanol er mwyn sicrhau gofal i’w plant. 

Dywedodd Jenny Rathbone AS, Cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ei bod yn “amlwg bod angen gwelliant sylweddol o ran y system gofal plant, sy’n dameidiog ac yn gymhleth.  

“Rydym am i Lywodraeth Cymru grynhoi’r tair ffrwd ariannu yn un rhaglen cyn gynted ag y bo modd." 

'Angen buddsoddi'

Nododd yr adroddiad mai un o'r prif bryderon yw pa mor fregus yw’r sector gofal plant.  

Mae arolwg gan sefydliad Blynyddoedd Cynnar Cymru yn awgrymu nad yw dros chwarter o ddarparwyr gofal plant yn hyderus y byddai modd iddynt oroesi am flwyddyn arall, medd yr adroddiad.

Dywedodd tua 9 o bob 10 nad yw’r fformiwla ariannu ar gyfer y system ‘Cynnig Gofal Plant,’ sef £5 yr awr, yn talu eu costau. Nid yw’r fformiwla hon wedi cael ei huwchraddio ers 2022.

Dywedodd Jenny Rathbone fod tystiolaeth o wledydd tramor, gan gynnwys Estonia, y gwledydd Nordig a Chanada, yn ogystal â thystiolaeth arbenigwyr yn y DU, yn pwysleisio mai buddsoddi mewn addysg a gofal yn y blynyddoedd cynnar yw “un o’r buddsoddiadau pwysicaf y gall unrhyw wlad ei wneud.” 

“Rydym yn gobeithio ysbrydoli Llywodraeth Cymru i wneud addysg a gofal yn y blynyddoedd cynnar yn flaenoriaeth ganolog ar gyfer gweddill tymor y Senedd hon.” 

Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn deall bod rhai rhieni'n ei chael hi'n anodd gwneud cais am ofal plant wedi'i ariannu yng Nghymru ac rydym wedi lansio Teulu Cymru i'w gwneud hi'n haws i rieni gael gafael ar y cymorth a'r cyngor sydd eu hangen arnynt gan y llywodraeth mewn un lle.

"Mae Cynnig Gofal Plant Cymru wedi'i gynllunio i helpu rhieni i ddychwelyd i'r gwaith, addysg a hyfforddiant, tra bod gofal plant Dechrau'n Deg yn canolbwyntio ar ddatblygiad plant. Wrth i ni barhau i ehangu'n raddol i gynnwys pob plentyn dwy oed, bydd cyrhaeddiad gofal plant Dechrau'n Deg yn cynyddu."

Ychwanegodd y llefarydd y byddant yn "ymateb maes o law" i argymhellion y pwyllgor. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.