Huw Edwards yn cael ei dalu mwy na £475,000 gan y BBC cyn ymddiswyddo
Roedd Huw Edwards yn cael ei dalu mwy na £475,000 gan y BBC y llynedd cyn iddo ymddiswyddo.
Fe wnaeth y cyflwynydd o Gymru adael y gorfforaeth ym mis Ebrill y llynedd yn dilyn honiadau ei fod wedi talu person ifanc am luniau o natur rywiol.
Dywedodd yr heddlu bryd hynny nad oedden nhw wedi gweld unrhyw dystiolaeth bod y gyfraith wedi ei thorri.
Yn ôl adroddiad blynyddol y BBC eleni, roedd Mr Edwards yn cael ei dalu rhwng £475,000 a £479,999 yn y flwyddyn 2023/24 – a hynny am 160 diwrnod o gyflwyno rhaglenni newyddion arbennig BBC One, rhaglenni'r etholiad a rhaglenni teledu eraill.
Roedd hyn yn gynnydd o 35% o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol, pan gafodd Mr Edwards ei dalu rhwng £435,000 a 439,999 am 180 diwrnod o gyflwyno ar BBC One a rhaglenni newyddion arbennig.
Y cefndir
Fe gafodd Mr Edwards ei wahardd gan y BBC ym mis Gorffennaf 2023, ac fe roedd yn absennol o'i waith nes iddo adael ym mis Ebrill 2024.
Ar y pryd, dywedodd ei wraig, Vicky Flind, ei fod yn dioddef o "broblemau iechyd meddwl difrifol" ac wedi derbyn gofal mewn ysbyty.
Cadarnhaodd y BBC ar adeg ei ymadawiad nad oedd wedi derbyn taliad ychwanegol wrth adael, a’i fod yn gadael “ar sail cyngor meddygol gan ei feddygon”.
Roedd Mr Edwards wedi gweithio i'r BBC am 40 o flynyddoedd.
Fe gyflwynodd raglen Jiwbilî Diemwnt y Frenhines Elizabeth yn 2012, y Jiwbilî Platinwm yn 2022 yn ogystal â phriodas Tywysog a Thywysoges Cymru yn 2011 a phriodas Dug a Duges Sussex yn 2018.
Fe roedd hefyd wedi cyhoeddi marwolaeth y Frenhines Elizabeth II yn 2022, ac fe gyflwynodd ddarllediad y gorfforaeth o goroni'r Brenin Charles y llynedd.
Roedd Mr Edwards ymhlith y bobl sy'n ennill y cyflogau uchaf o fewn y BBC, gyda'i gyflog yn ei roi yn drydydd ar y rhestr ar gyfer 2023/24.
Cyflwynydd Match Of The Day, Gary Lineker, sydd yn parhau ar frig y rhestr, gan ennill rhwng £1,350,000 a £1,354,999 y flwyddyn.