Teyrnged teulu i fenyw a fu farw mewn gwrthdrawiad yn Sir Gâr
Mae teulu wedi rhoi teyrnged i fenyw 75 mlwydd oed a fu farw mewn gwrthdrawiad yn Sir Gaerfyrddin.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i ffordd yr A48, rhwng Cross Hands a Llanddarog, am 10.50 fore Gwener 19 Gorffennaf, yn dilyn gwrthdrawiad rhwng tri cherbyd.
Bu farw Nesta Jeffreys, 75 oed, oedd yn teithio yn un o’r ceir.
Cafodd un person arall ei gludo i’r ysbyty gydag anafiadau difrifol.
Mewn teyrnged, dywedodd teulu Ms Jeffreys: “Mae ein calonnau wedi eu torri ar ôl colli aelod mor werthfawr o’n teulu yn mor sydyn.
“Rydym yn hynod o drist ar ôl colli gwraig, mam, mam-gu a hen fam-gu.”
Mae teulu Ms Jeffreys wedi gofyn am breifatrwydd yn ystod y cyfnod hwn.
Mae Heddlu Dyfed Powys yn ymchwilio i’r digwyddiad ac yn gofyn i unrhyw un a oedd yn teithio ar yr A48 yr adeg honno i gysylltu â nhw.
Mae’r llu hefyd yn apelio am unrhyw un a all fod â lluniau dash cam o’r digwyddiad, i gysylltu gyda nhw.