Dyn 60 oed wedi marw mewn gwrthdrawiad ar yr A470
Mae dyn 60 oed wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ym Mhowys.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i ffordd yr A470, ger Y Bontnewydd-ar-Wy, am 16.50 ddydd Gwener 19 Gorffennaf.
Bu farw gyrrwr beic modur yn y digwyddiad.
Mae teulu’r dyn wedi cael gwybod ac yn derbyn cefnogaeth gan swyddogion arbenigol Heddlu Dyfed Powys.
Roedd y ffordd wedi’i chau am oriau wrth i ymchwiliad gael ei gynnal.
Cafodd un person ei arestio mewn cysylltiad â’r digwyddiad.
Dywedodd llefarydd ar ran y llu: “Hoffai swyddogion sydd yn ymchwilio glywed gan unrhyw un oedd yn teithio ar yr A470 rhwng Y Bontnewydd-ar-Wy a Lanwrthwl ar yr adeg honno a allai fod wedi gweld y digwyddiad.
"Mae swyddogion yn awyddus i glywed gan unrhyw yrwyr a all hefyd fod â chamera dash cam yn eu cerbydau.”
Llun: Google Maps