Newyddion S4C

Colli swyddi wrth i 13 siop Carpetright gau yng Nghymru

23/07/2024
Arwydd siop Carpetright

Bydd 13 siop Carpetwright yn cau yng Nghymru a 200 arall yn cau ar draws Lloegr, yr Alban, a Gogledd Iwerddon.

Daw wedi i Carpetright gael ei brynu mewn cytundeb i'w achub gan ei gystadleuydd Tapi.

Bydd mwy na 1,000 o swyddi'n cael eu colli ledled y DU.

Cafodd ei gyhoeddi ddydd Llun fod yr arwerthwr lloriau Tapi wedi cytuno i brynu 54 o siopau Carpetright, dwy storfa, y brand a'i eiddo deallusol.

Fodd bynnag, ni fydd y fargen yn achub y rhan fwyaf o'r busnes. Yr unig siop Gymreig sydd wedi'i chynnwys yn y fargen yw Caerfyrddin.

Dyma restr lawn o’r siopau Cymreig y mae disgwyl iddyn nhw gau dros y dyddiau nesaf, yn ôl y gweinyddwyr PwC:

  • Aberystwyth

  • Pen-y-bont ar Ogwr

  • Caerffili

  • Caerdydd – Croes Cwrlwys

  • Caerdydd – Heol Casnewydd

  • Cwmbrân

  • Hwlffordd

  • Llandudno

  • Llanidloes – Hafren Furnishers

  • Merthyr Tudful

  • Casnewydd

  • Abertawe – Llansamlet

  • Wrecsam

'Trist'

Dywedodd Zelf Hussain, Cyd-Weinyddwr PwC: “Mae Carpetright wedi dioddef heriau sy’n wynebu llawer o fanwerthwyr, yn enwedig y rhai sy’n gwerthu eitemau drud.

“Roedd cymysgedd o ffactorau, gan gynnwys gostyngiad mawr mewn gwariant defnyddwyr oherwydd yr argyfwng costau byw, llai o werthu nwyddau ar gyfer cartrefi ac ymosodiad seiber yn ei gwneud hi’n amhosib i’r busnes barhau yn ei ffurf bresennol.

“Mae gwerthu rhai siopau’r brand i Tapi wedi galluogi i dros 300 o swyddi gael eu hachub, ac yn rhoi cyfle i frand Carpetright barhau i ffynnu o dan ei berchnogaeth newydd.

“Fodd bynnag, mae’n drist iawn y bydd gweddill y gweithlu yn wynebu diswyddiadau.

"Rydym wedi ymrwymo i helpu'r rhai fydd yn cael eu heffeithio a byddwn yn sicrhau bod hawliadau diswyddo yn cael eu prosesu cyn gynted â phosib. 

"Mewn cydweithrediad â Tapi, byddwn yn cynorthwyo gydag ymdrechion i helpu unigolion ddod o hyd i swyddi newydd yn rhywle arall.

“Rydym ni’n gwybod bod hwn yn gyfnod ansicr i lawer o’r rhai sydd wedi’u heffeithio ac rydym ni eisiau diolch i’r holl staff am y gefnogaeth maen nhw wedi’i rhoi i’r cwmni o dan amgylchiadau anodd.”

Llun: PA

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.