Dylanwadwyr yn gwneud i fechgyn gasáu merched medd yr heddlu
Mae dylanwadwyr ar-lein fel Andrew Tate yn radicaleiddio bechgyn i fod â chasineb tuag at ferched meddai’r heddlu.
Yn ôl Dirprwy Brif Gwnstabl yr Heddlu Maggie Blyth mae’n "reit frawychus".
Daw ei sylwadau wrth i Gyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu gyhoeddi adroddiad sy’n nodi bod 3,000 o droseddau o drais yn erbyn merched a menywod yn cael eu cofnodi bob dydd.
Mae’r ddogfen yn darogan y bydd o leiaf un ymhob 12 o fenywod sef tua dwy filiwn yn dioddef trais bob blwyddyn. Y realiti yw bod y niferoedd yn fwy na hynny hefyd am fod nifer yn penderfynu peidio cofnodi’r drosedd.
Dywedodd Ms Blyth bod y ffigyrau yn “syfrdanol” gyda chynnydd o 37% yn y cofnodion heddlu o drais yn erbyn merched a menywod o 2018/19 i 2022/23.
Mae’r sefyllfa meddai yn un o “argyfwng cenedlaethol” ac mae’n bwysig bod cymdeithas “ddim yn derbyn bod trais yn erbyn merched a menywod yn rhywbeth anorfod”.
Mae’r ddogfen yn nodi bod “mathau mwy cymhleth o droseddu” yn digwydd gyda’r heddlu yn cydweithio gyda thimau gwrthderfysgaeth i edrych ar y risg i fechgyn ifanc gael eu radicaleiddio.
'Taclo'
Mae Mr Tate yn ddylanwadwr dadleuol sydd yn disgwyl wynebu achos llys yn Rwmania ar gyhuddiadau o dreisio a masnachu pobl - cyhuddiadau mae o’n gwadu.
Yn ogystal mae cam-drin domestig yn cynyddu ac yn parhau yn rhan fawr o waith yr heddlu.
Fe fydd Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu yn sefydlu hwb ganolog er mwyn hyfforddi swyddogion. Ond mae’r corff hefyd yn dweud bod angen gwneud mwy na hyn.
“Rydyn ni angen cefnogaeth y llywodraeth a’u bod yn ymyrryd ac yn taclo'r problemau sydd yn bodoli o fewn y system gyfiawnder troseddol. Mae angen iddyn nhw arwain y ffordd ar feddwl yn holistaidd ynglŷn â thrais yn erbyn menywod a merched,” meddai Ms Blyth.
Mae'r Ysgrifennydd Cartref, Yvette Cooper wedi dweud yn y gorffennol bod daclo trais yn erbyn menywod a merched yn flaenoriaeth iddi.
Llun: Wochit