Newyddion S4C

Disgwyl mai Eluned Morgan fydd Prif Weinidog nesaf Cymru

23/07/2024

Disgwyl mai Eluned Morgan fydd Prif Weinidog nesaf Cymru

Mae disgwyl mai Eluned Morgan fydd Prif Weinidog newydd Cymru wedi iddo ddod i'r amlwg na fydd neb yn ei herio yn yr ornest am swydd arweinydd y blaid Lafur yng Nghymru.

Daw wrth i'r Ysgrifennydd Iechyd ddenu enwebiad Ken Skates fore dydd Mawrth, a oedd yn geffyl blaen i sefyll yn ei herbyn hi pe bai yna gystadleuaeth.

Mae hi bellach wedi derbyn sêl bendith 25 o’r 30 aelod o grŵp Llafur yn y Senedd, gan gynnwys y cyn Brif Weinidog Mark Drakeford.

Dywedodd un Aelod o Senedd Cymru, Lee Waters, na fyddai yn enwebu ymgeisydd, a does dim disgwyl chwaith i'r Prif Weinidog presennol Vaughan Gething wneud hynny chwaith.

Mae angen cefnogaeth 20% o'r grŵp Llafur er mwyn enwebu ymgeisydd. Gyda 25 ohonynt wedi cefnogi Eluned Morgan mae'n golygu nad oes digon o enwebiadau gan yr un ymgeisydd arall i sefyll.

Mae'r cyfnod ar gyfer enwebu ymgeiswyr yn cau ddydd Mercher am 12:00 a hyd yn hyn does neb arall wedi datgan ei bwriad i sefyll.

Os na fydd neb yn sefyll yn ei herbyn hi fydd arweinydd newydd y Blaid Lafur yng Nghymru ac fe allai fod yn brif weinidog benywaidd cyntaf Cymru wythnos nesa’.

‘Gwahanol’

Ddydd Llun fe wnaeth hi gyhoeddi ei bod hi'n sefyll fel ymgeisydd ar y cyd gyda Huw Irranca-Davies. 

Fe ddywedodd bod ganddi "gefnogaeth gref" nifer o'r ASau Llafur yn Senedd Cymru. 

Wrth lansio ei hymgyrch ar faes y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd brynhawn Llun pwysleisiodd ei bod yng "nghalon cefn gwlad Cymru."

"Nid ydym erioed wedi cael Prif Weinidog sy’n cynrychioli etholaeth wledig,” meddai.

“Nid ydym erioed wedi cael Prif Weinidog sy’n cynrychioli etholaeth neu ranbarth y tu allan i dde Cymru.

“Rydyn ni yma i wneud pethau ychydig yn wahanol."

Dywedodd hefyd mai ei nod yw ail gydio yn y berthynas rhwng Llafur Cymru a phobl Cymru.

Fe benderfynodd Y Farwnes Morgan rhoi ei henw ymlaen ar ôl i'r Prif Weinidog presennol, Vaughan Gething gyhoeddi wythnos diwethaf y byddai'n ymddiswyddo. Daeth hyn ar ôl i bedwar aelod o'r cabinet ymddiswyddo. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.