Alun Wyn Jones yn lansio ymgyrch i godi ymwybyddiaeth o gyflwr ar y galon

23/07/2024
Alun Wyn Jones

Mae cyn-gapten rygbi Cymru, Alun Wyn Jones, wedi lansio ymgyrch i godi ymwybyddiaeth o gyflwr ar y galon ar ôl iddo dderbyn diagnosis ei hun. 

Mae Jones, 38 oed, wedi partneru â'r cwmni AliveCor, sef yr arweinydd byd-eang mewn cardioleg wedi’i bweru gan AI, i lansio ‘Let's Talk Rhythm’.

Dyma ymgyrch newydd i godi ymwybyddiaeth o symptomau cynnar ffibriliad atrïaidd ac annog pobl i siarad am iechyd eu calon. Ffibriliad atrïaidd yw cyflwr ar y galon pan mae calon person yn curo yn afreolaidd ac yn aml yn gyflym.

Fe gyhoeddodd y chwaraewr rygbi o Abertawe ym mis Rhagfyr ei fod wedi derbyn diagnosis o ffibriliad atrïaidd.

"Cafodd y cyflwr ei ddarganfod pan ges i wiriad meddygol llawn, oedd yn cynnwys prawf ECG, pan ymunais â Toulon ym mis Gorffennaf," meddai.

Cafodd Jones lawdriniaeth i gywiro cyflwr y galon ym mis Tachwedd, yn fuan ar ôl gorffen ei yrfa.

Nawr, mae'n ymgyrchu i godi ymwybyddiaeth o'r cyflwr sy'n achosi curiad calon afreolaidd. 

Yn ôl Sefydliad Prydeinig y Galon, mae mwy na 80,000 o bobl yng Nghymru wedi derbyn diagnosis o ffibriliad atrïaidd.

Ond y gred yw bod o leiaf 15,000 o bobl dros 65 oed yng Nghymru â ffibriliad atrïaidd a heb gael diagnosis.

"Yn ystod fy ngyrfa rygbi, roeddwn i wedi arfer ymarfer yn galed a gwthio fy nghorff i'r eithaf. Pan ddywedwyd wrthyf yn ystod sesiwn feddygol arferol fod fy mlinder yn ganlyniad cyflwr ar y galon, roeddwn wedi fy synnu a dweud y lleiaf," meddai Jones. 

"Trwy'r ymgyrch ‘Let's Talk Rhythm’, rwyf am rannu fy mhrofiad personol a chyngor ymarferol i helpu pobl i adnabod arwyddion cynnar o ffibriliad atrïaidd ac i siarad am eu pryderon."

 

 

 

 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.