Kamala Harris wedi derbyn digon o gefnogaeth i fod yn enwebai'r Democratiaid
Mae Kamala Harris wedi sicrhau cefnogaeth digon o gynrychiolwyr i ennill enwebiad y Blaid Ddemocrataidd fel ymgeisydd arlywyddol.
Dywedodd arolwg gan yr Associated Press nos Lun fod dirprwy arlywydd Yr Unol Daleithiau wedi derbyn cefnogaeth mwy na'r 1,976 o gynrychiolwyr sydd eu hangen i ennill yr enwebiad yn rownd gyntaf y bleidlais.
Mewn datganiad, dywedodd Ms Harris ei bod yn "falch" o fod wedi sicrhau "cefnogaeth eang" ac yn edrych ymlaen at dderbyn yr enwebiad yn ffurfiol.
"Rwy’n ddiolchgar i’r Arlywydd Biden a phawb yn y Blaid Ddemocrataidd sydd eisoes wedi rhoi eu ffydd ynof, ac edrychaf ymlaen at fynd â’n hachos yn uniongyrchol at bobl America," meddai.
Mae'r arolwg yn answyddogol gan fod cynrychiolwyr Democrataidd yn rhydd i bleidleisio dros yr ymgeisydd o'u dewis.
Ni fydd Ms Harris yn ymgeisydd swyddogol nes bod "galwad y gofrestr" wedi'i gwblhau yng Nghonfensiwn y Blaid Ddemocrataidd ar 19 Awst yn Chicago.
'Gweithio fel cythraul'
Daw ar ôl i Joe Biden ddweud y byddai'n “gweithio fel cythraul” yn ei fisoedd olaf fel Arlywydd yr Unol Daleithiau i ymgyrchu i Ms Harris ei olynu.
Roedd yn siarad mewn galwad ffôn i staff ym mhencadlys yr ymgyrch yn Wilmington, Delaware, sef ei sylwadau cyhoeddus cyntaf ers iddo gyhoeddi y byddai’n tynnu allan o'r ras arlywyddol.
Dywedodd Mr Biden wrth gefnogwyr ddydd Llun: "Dydw i ddim yn mynd i unman. Rydw i'n mynd i fod allan yna ar yr ymgyrch gyda hi, gyda Kamala.
"Rydw i'n mynd i fod yn gweithio fel cythraul."
Ychwanegodd Mr Biden: "Mae gen i chwe mis ar ôl o fy llywyddiaeth, rwy'n benderfynol o wneud cymaint ag y gallaf. Polisi tramor a pholisi domestig."
"Byddaf yn gwneud beth bynnag y mae Kamala eisiau i mi neu angen i mi ei wneud... Rydym yn dal i ymladd yn y frwydr hon gyda'n gilydd."
Bydd etholiad arlywyddol yr Unol Daleithiau yn cael ei gynnal dydd Mawrth, 5 Tachwedd.