Newyddion S4C

Anhrefn wedi i nam technegol sylweddol daro cwmnïau'n fyd-eang

22/07/2024

Anhrefn wedi i nam technegol sylweddol daro cwmnïau'n fyd-eang

Anrhefn wrth godi y bore 'ma a neb yn siŵr pam.

"Massive tech outages are impacting airlines, businesses, offices companies worldwide."

Daeth teithiau awyr i stop ar draws y byd fel mae'r ddelwedd yma gan wasanaeth Flightradar yn dangos.

Dyw Hywel Roberts ddim wedi gallu dod adref o Malaga yn Sbaen.

"Ni 'di gorfod ffeindio hotel funud-olaf.

"Dw i ddim yn gwybod pryd gallwn ni fynd adref so fi a fy ffrind yn styc yma am nawr."

Ond nid meysydd awyr yn unig gafodd eu taro.

Cafodd y broblem effaith ar ysbytai, meddygon teulu, siopau a banciau nifer o fusnesau neu sefydliadau sy'n defnyddio meddalwedd Microsoft.

"At Crowdstrike, we monitor trillions of cyber events."

Ar y cwmni hwn oedd y bai.

Mae Crowdstrike fod i warchod eu cwsmeriaid rhag ymosodiadau seibr ond fe achosodd diweddariad i'w meddalwedd drafferth mawr o bosibl, y mwyaf erioed gan fod ganddynt 24,000 o gleientiaid nifer yn gwmniau rhyngwladol.

"Ar ddiwedd y dydd, rhaid i gwmniau o bob fath ymddiried eu technoleg a'u diogelwch technoleg yn nwylo rhywun.

"Y rhywun hynny yn nifer o achosion yw Crowdstrike.

"Mae nifer fawr o gwmniau mwya'r byd yn defnyddio Crowdstrike ond pan fod rhywbeth yn mynd o'i le, mae'n gyhoeddus iawn.

"Mae'n cael ei weld a'i deimlo ar draws y byd."

Tra gallai teithwyr wynebu oedi am ddyddiau mae pethau'n dechrau dychwelyd i drefn ond bydd angen ymdrech fawr i adfer camgymeriad sy'n siwr o gostio'n ddrud i Crowdstrike.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.