Newyddion S4C

Eluned Morgan: Prif Weinidog 'o'r tu allan i dde Cymru' yn cynnig rywbeth gwahanol

22/07/2024

Eluned Morgan: Prif Weinidog 'o'r tu allan i dde Cymru' yn cynnig rywbeth gwahanol

Mae Eluned Morgan wedi dweud y bydd yn Brif Weinidog gwahanol – gan gynnwys cynrychioli etholaeth y tu allan i dde Cymru.

Wrth lansio ei hymgyrch i sefyll fel Prif Weinidog Cymru ar faes y Sioe Frenhinol, dywedodd mai hi fyddai y cyntaf i beidio cynrychioli etholaeth yng Nghaerdydd neu’r cymoedd.

Ychwanegodd yr Aelod o Senedd Cymru dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru ei bod yn hen bryd i ddynes ddod yn arweinydd Llafur yng Nghymru ac yn Brif Weinidog. 

Wrth lansio ei hymgyrch yn Llanelwedd, pwysleisiodd ei bod yng "nghalon cefn gwlad Cymru."

"Nid ydym erioed wedi cael Prif Weinidog sy’n cynrychioli etholaeth wledig,” meddai.

“Nid ydym erioed wedi cael Prif Weinidog sy’n cynrychioli etholaeth neu ranbarth y tu allan i dde Cymru.

“Rydyn ni yma i wneud pethau ychydig yn wahanol,”  meddai.

Roedd Rhodri Morgan a Mark Drakeford yn cynrychioli etholaeth Gorllewin Caerdydd, Vaughan Gething De Caerdydd a Phenarth a Carwyn Jones Pen-y-bont ar Ogwr.

Roedd Alun Michael, fel Eluned Morgan, yn cynrychioli etholaeth Canolbarth a Gorllewin Cymru, er nad oedd yn dechnegol yn Brif Weinidog Cymru gan ei fod yn defnyddio’r teitl Prif Ysgrifennydd.

‘Hyderus’

Wrth lansio ei hymgyrch i sefyll fel Prif Weinidog Cymru gyda'i dirprwy, dywedodd Eluned Morgan mai ei nod yw ail gydio yn y berthynas rhwng Llafur Cymru a phobl Cymru.   

Ar faes y Sioe Fawr yn Llanwelwedd, cyhoeddodd ddatganiad ar y cyd gyda Huw Irranca-Davies a fyddai'n cael ei ethol yn ddirprwy Brif weinidog pe bai'r ymgyrch yn llwyddiannus. 

Cyhoeddodd y ddau wleidydd amser cinio ddydd Llun eu bod yn sefyll wedi i Vaughan Gething gyhoeddi yr wythnos diwethaf y bydd yn ymddiswyddo. Daeth hynny wedi i bedwar aelod o'r cabinet ymddiswyddo. 

Yn y gynhadledd newyddion yn hwyr brynhawn Llun, dywedodd Eluned Morgan bod angen "ail osod wedi cyfnod cythryblus " i blaid Lafur Cymru. 

"Dydyn ni ddim yn perthyn i unrhyw garfan, wnaethon ni ddim dangos ochrau," meddai.     

"Rydym ni'n hyderus fod gennym ni gefnogaeth ar draws y blaid gan gynnwys yr undebau llafur.

"Ry'n ni angen dysgu gwersi, ac ry'n ni angen gwrando."   

 Ymateb

Wrth ymateb i'r cyhoeddiad y bydd Eluned Morgan yn sefyll i fod yn arweinydd nesaf Llafur Cymru, dywedodd arweinydd Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth bod "ffocws Llafur yn gyfan gwbl ar reolaeth eu plaid yn hytrach nag ar newid cyfeiriad i Gymru" ar ôl "wythnosau o ffraeo mewnol".

“Mae gan arweinwyr Llafur yng Nghymru yn y gorffennol diweddar a’r dyfodol agos un peth yn gyffredin ar eu CV – record affwysol o redeg y GIG sydd wedi arwain at restrau aros uwch nag erioed," meddai.

“Os daw Eluned Morgan yn arweinydd Llafur yng Nghymru a phe bai’n dod yn Brif Weinidog, bydd yn rhoi blaenoriaeth i wella clwyfau Llafur yn hytrach nag adnewyddu synnwyr y llywodraeth o bwrpas."

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi dweud y dylai'r Senedd gael ei alw yn ôl o wyliau'r haf os nad oes unrhyw un arall yn sefyll.

Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Andrew RT Davies y bydd hyn yn “rhoi mwy o sefydlogrwydd i Gymru” gan ddadlau y byddai’r wlad “heb lywodraeth weithredol am fisoedd dros yr haf” pe bai’r bleidlais yn cael ei gohirio.

Amserlen

Ddydd Sadwrn fe wnaeth Llafur Cymru gyhoeddi amserlen ar gyfer ethol arweinydd newydd a Phrif Weinidog Cymru.

Fe fydd cyfnod enwebiadau yn cychwyn am 19:00 ddydd Sadwrn ac yn cau am 12:00 ddydd Mercher yma, 24 Gorffennaf.

Yna fe fydd cyfle i’r rhai sydd wedi eu henwebu drafod eu hymgyrch rhwng 20 Awst a 6 Medi.

Fe fydd Llafur Cymru yna’n cynnal pleidlais rhwng 22 Awst a 13 Medi gyda’r cyhoeddiad am arweinydd newydd Llafur Cymru yn dod ar ddydd Sadwrn 14 Medi. 

Fe fydd etholiad ar gyfer Prif Weinidog newydd Cymru yn cael ei gynnal ar ddydd Mercher 18 Medi.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.