Edward Morus Jones yn ymddeol o stiwardio wedi 27 mlynedd o wasanaeth i'r Sioe Fawr
Edward Morus Jones yn ymddeol o stiwardio wedi 27 mlynedd o wasanaeth i'r Sioe Fawr
Wedi 27 mlynedd yn stiwardio yn ystafell y wasg yn y Sioe Fawr, mae Edward Morus Jones wedi cyhoeddi mai hon fydd ei flwyddyn olaf yn gwirfoddoli.
Ac fe gafodd parti ei drefnu yn gyfrinachol ar ei gyfer gan y rhai sydd wedi cyd-weithio ag ef dros y blynyddoedd.
Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd y cyn athro a'r canwr y bydd yn rhoi'r gorau i'r rôl, gydag atgofion bendigedig.
“Mae’n sioe hapus iawn â chymaint o ffrindiau newydd yn cael eu gwneud a chael cyd-weithio.
“Dwi ‘di bod yn hapus iawn iawn a dweud y gwir. Dwi ‘di dod allan o fyd addysg blynyddoedd yn ôl a dwi ‘di dod yma i ganol bob math o bobl.
“O Seland Newydd i Ganada, i Awstralia i Gymru a’r cyfryngau Cymraeg - mae ‘di bod yn rhyw ganfas, hir, braf o ymwneud â’r Sioe Frenhinol.”
'Fel teulu'
Mae Beryl Vaughan wedi bod yn ymyl Edward wrth y ddesg yn ystafell y wasg am flynyddoedd lawer.
“Mae Edward wedi dweud ers rhai blynyddoedd, hon fydd ein sioe ola’ i," meddai hi.
“Ag oeddan ni’n deud, Edward, elli di ddim deud y sioe ola’, pam? Wyt ti’n mwynhau neud o a ‘da ni’n mwynhau dy gael ‘di.
“Mae ‘di cael penblwydd arbennig iawn ag o’dd o’n teimlo wel mae hyn yn garreg filltir.
“Ag ninnau’n teimlo, dydy Edward ddim yn mynd o ‘ma heb roid y diolch y dyla ni fod yn rhoid idda fo.
“Mi fyddwn ni’n ei golli o.... roedd Edward yn 'nabod pawb ag oeddan ni fel teulu ‘ma. Roedd o ar gael unrhyw adeg.”
