Ysgol yng Ngwynedd yn atal dau aelod o staff wrth ymchwilio
22/07/2024
Mae ysgol yng Ngwynedd wedi atal dau aelod o staff o'u swyddi wrth gynnal ymchwiliad, meddai'r cyngor sir.
Nid yw Cyngor Gwynedd wedi enwi'r ysgol dan sylw, na chadarnhau a yw'r ddau yn athrawon.
Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor: “Gallwn gadarnhau fod dau aelod o staff ysgol Gwynedd wedi eu hatal o’r gwaith ac mae’r Cyngor yn cynnal ymchwiliadau mewnol.
"Ni fyddai’n briodol i’r Cyngor na’r ysgol dan sylw wneud sylw pellach hyd nes bydd yr ymchwiliadau hyn wedi eu cwblhau.”