Newyddion S4C

Gofalwyr di-dâl: ‘Dyw’r cymorth ni’n cael ddim yn ddigon’

Y Byd ar Bedwar 22/07/2024

Gofalwyr di-dâl: ‘Dyw’r cymorth ni’n cael ddim yn ddigon’

Mae mam o Rydaman yn dweud bod angen mwy o gefnogaeth i’w theulu i ofalu am ei mab sydd â chyflwr meddygol prin. 

Mae gan Jake, 16 oed 'Duchenne Muscular Dystrophy' (DMD), cyflwr sy'n effeithio ar fechgyn gan amlaf, a sy'n achosi i'r holl gyhyrau yn y corff wanhau'n raddol.

Mewn cyfweliad gyda rhaglen Y Byd ar Bedwar dywedodd Heulwen Thomas: “Ma’ ishe mwy o support arno ni…dyw e ddim yn ddigon.” 

Mae Jake i fod i gael cymorth gan ofalwyr Cyngor Sir Gaerfyrddin ddwywaith y dydd, ond yn ôl Heulwen, ‘dyw hynny ddim yn digwydd pob tro. 

“Weithiau ma’ nhw’n ffonio yn dweud s'dim pobl 'da ni heddi, neu ma’ nhw’n ffonio i ddweud s’dim ond un sy’n dod heno," meddai.

“Mae eisie lot mwy o support na' be fin cael.”

Image
Y Byd ar Bedwar
Mae Heulwen Thomas yn galw am fwy o gefnogaeth i oflawyr di-dâl 

Er bod Ms Thomas yn cydnabod bod diffyg gweithwyr yn y diwydiant gofalu, mae hi’n teimlo bod yr hyn sydd ar gael iddi hi ag eraill sydd angen cymorth ychwanegol ddim yn ddigonol. 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir Gaerfyrddin y Cynghorydd Jane Tremlett bod y “Sector Gofal Cymdeithasol yng Nghymru, fel yn y DU, yn wynebu heriau gweithlu digynsail ar hyn o bryd".

“Mae recriwtio a chadw staff yn brif flaenoriaeth yn Sir Gaerfyrddin, gydag atebion arloesol megis Academi Gofal, wedi'u sefydlu fel rhan o'n strategaeth gweithlu. Mae gwasanaethau mewnol a gwasanaethau a gomisiynir hefyd yn cael eu hadolygu’n gyson i sicrhau ein bod yn ymateb i’r angen a aseswyd am ofal a chymorth ac yn ei reoli.”

Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £1.6m dros dair blynedd i ariannu rhaglenni cenedlaethol i wella llesiant gofalwyr di-dâl. 

Image
Mae Grug, 9 oed yn helpu ei brawd mawr Jake gyda tasgau dyddiol
Mae Grug, 9 oed yn helpu ei brawd mawr Jake gyda tasgau dyddiol

‘Gwneud popeth’

Oherwydd gofynion gofalu Jake, dyw Heulwen ddim yn gallu gweithio. Ond mae’r cyfrifoldeb hefyd yn disgyn ar ei merch naw oed sydd yn ofalwr ifanc i’w brawd mawr.

Mae dros 11,000 o blant Cymru yn ofalwyr ifanc, gan gynnwys Grug.

“Dwi’n helpu fe gyda bwyd, helpu fe wisgo. Helpu fe i yfed, helpu fe i chwarae,” meddai Grug. 

“Rhai weithiau fi’n helpu fe gyda moddion a tablets… Wedyn mae'n gallu cael tymed bach o egni a ma’ fe yn helpu gyda muscles e. Mae un tabled yn neud muscles e yn stronger ac mae tablets eraill yn neud bones e yn stronger.” 

Mae Heulwen yn teimlo yn ffodus iawn o gymorth Grug ac yn dweud ei bod hi’n ymddwyn mwy fel chwaer fawr i Jake. 

“Fi’n teimlo bod e dim ond fi, Jake a Grug against the world.

Mae Grug yn lot o help. Pan mae angen rhywun i wylio fe - amser mae Jake yn galw amdani hi’n, mae hi’n rhedeg ato fe cyn bo fi’n cael chance i fynd ato fe - mae hi moyn helpu, she’s the first one there- mai’n neud popeth.”

Mae tua 37,000 o bobl ifanc yng Nghymru a Lloegr yn gofalu am dros 50 awr bob wythnos. 

‘Angen buddsoddi mwy’ 

Ac yn ôl Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru mae angen mwy o fuddsoddiad gan Lywodraeth Cymru i sicrhau cefnogaeth angenrheidiol i ofalwyr. 

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae gan awdurdodau lleol ddyletswydd statudol i ddarparu gwasanaethau asesu a chymorth i ofalwyr ifanc, gyda chyllid blynyddol yn cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru drwy’r Grant Cynnal Refeniw.

“Yn ogystal â hyn rydym wedi darparu £700,000 i sefydlu cynllun cerdyn adnabod gofalwr ifanc i’w ddefnyddio mewn ysgolion ledled Cymru, a darparu adnoddau addysgol a rhwydweithiau ychwanegol i gefnogi gofalwyr ifanc. Rydym hefyd wedi cefnogi tair gŵyl flynyddol i ofalwyr ifanc gyda £140,000. 

"Mae'r rhain yn darparu gweithgareddau a phrofiadau allgyrsiol i ofalwyr ifanc y gwyddom eu bod yn cael effaith gadarnhaol ar ddyheadau a chyrhaeddiad.” 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.