Newyddion S4C

Dynes o Abertawe yn gwadu difrodi gwydr sy’n diogelu'r Magna Carta

22/07/2024
Judith Bruce

Mae dwy ddynes yn eu 80au, un o Abertawe, wedi gwadu difrodi cas gwydr sy'n diogelu Magna Carta.

Mae'r Parchedig Sue Parfitt, 82, o Henbury, Bryste, a Judith Bruce, 85, o Landeilo Ferwallt, ger Abertawe, sydd yn gefnogwyr Just Stop Oil, wedi’u cyhuddo o niweidio’r gwydr sydd yn diogelu’r Magna Carta yn y Llyfrgell Brydeinig ar 10 Mai.

Wrth ymddangos yn Llys y Goron Wood Green yng ngogledd Llundain ddydd Llun, fe wnaeth Ms Parfitt a Ms Bruce bledio’n ddieuog i gyhuddiad o ddifrodi eiddo.

Mae'r ddogfen hanesyddol, Lladin am 'Siarter Mawr', sydd yn dyddio’n ôl i 1215, yn perthyn i’r Llyfrgell ac yn cael ei chadw yno.

Cafodd Ms Parfitt, a Ms Bruce eu rhyddhau ar fechnïaeth amodol.

Mae’r achos llys wedi'i drefnu ar gyfer 13 Ionawr 2026, ac mae disgwyl iddo bara pedwar diwrnod.

Llun: Judith Bruce, o Landeilo Ferwallt, ger Abertawe, yn ymddangos y tu allan i Lys y Goron Wood Green yn Llundain. (PA) 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.